Mae wyth yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 16).

Mae’n golygu bod cyfanswm o 1,456 o bobol bellach wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.

Cafodd 65 o achosion newydd eu hadrodd, sy’n mynd â’r cyfanswm i 14,869.

Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd mae achosion a marwolaethau’n cael eu hadrodd a’u cofnodi.