Mae gweithio i helpu’r bobol sydd wedi’u taro galetaf gan effeithiau economaidd y coronafeirws yn hanfodol i ddechrau adfer Cymru, meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Yn ôl Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 16), llwyddwyd i gynnal lefelau cyflogaeth ar 74.4% dros y tri mis diwethaf yng Nghymru, ond mae disgwyl iddyn nhw ostwng wrth i gynlluniau cymorth incwm Llywodraeth Prydain gael eu cwtogi.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu pecyn cymorth i wella sgiliau a gwneud pobol yn fwy cyflogadwy, ac yn dweud y byddan nhw’n cynnig cyngor a chymorth i bawb dros 16 oed yng Nghymru i ddod o hyd i waith, i fynd yn hunangyflogedig neu i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant.

Byddan nhw hefyd yn helpu cyflogwyr i recriwtio a blaenoriaethu’r bobol sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn economaidd oherwydd Covid-19, gan gynnwys:

  • pobol ifanc
  • pobol groenddu a lleiafrifoedd ethnig eraill
  • pobol ag anableddau

Apêl

Apeliodd Gweinidog yr Economi eto heddiw ar i Lywodraeth Prydain roi rhagor o help i’r 316,000 a mwy o bobol yng Nghymru sydd ar hyn o bryd ar gennad, a’r 102,000 o bobol hunangyflogedig yng Nghymru sy’n derbyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, i wneud yn siŵr y byddan nhw’n gallu mynd yn ôl i’r gwaith pan ddaw’r pandemig i ben.

“Rydyn ni’n sylweddoli nad yw’r Ystadegau Marchnad Lafur heddiw’n dangos y darlun economaidd llawn a bod economegwyr yn rhagweld na welwn ni’r effaith gyfan tan fis Hydref,” meddai Ken Skates.

“Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i liniaru effeithiau’r clefyd erchyll hwn ac mae’n pecyn cymorth o £1.7bn yn golygu bod busnesau Cymru’n cael manteisio ar becyn cymorth sy’n fwy hael nag unrhyw beth arall yn y Deyrnas Unedig.

“Rydym eisoes wedi neilltuo bron £1bn ohono i gwmnïau ym mhob rhan o’r wlad ac mae mwy i ddod, a bydd ein Cronfa Cadernid Economaidd o £500m yn ailagor i ragor o geisiadau yn ddiweddarach y mis hwn.

“Ond law yn llaw â’n pecyn o gymorth i fusnesau, rhaid sicrhau help hefyd i’r bobl sydd wedi colli gwaith neu gyfleoedd hyfforddi oherwydd y pandemig.

“Rydym yn cymryd camau i wneud hynny’n union trwy ddatblygu pecyn cynhwysfawr o gymorth i helpu pobl i wella’u sgiliau ac i gael gwaith newydd er mwyn inni allu gwarchod cenhedlaeth – yn enwedig y mwyaf bregus yn ein cymdeithas – rhag creithiau posibl diweithdra. Os bydd angen, defnyddiwn hyd at £40m o’n Cronfa Cadernid Economaidd i wneud hyn.”