Mae Ken Skates yn dweud bod rhywfaint o obaith y gall y diwydiant twristaeth ailddechrau yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn.
Daeth sylwadau Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a gogledd Cymru yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru yn sgil y coronafeirws.
Roedd pryderon na fyddai modd denu twristiaid i Gymru cyn diwedd y flwyddyn, ond fe ddywedodd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 16) fod y sefyllfa’n edrych “dipyn yn well” erbyn hyn.
Ond mae’n gwrthod dweud pryd y bydd modd ailagor atyniadau a llety.
“Rhaid i ni sicrhau, pan fyddwn ni’n cyhoeddi dyddiad, ein bod ni’n gallu ymrwymo i’r dyddiad hwnnw,” meddai.
“Ro’n i’n teimlo bod risg gwirioneddol na fyddai gobaith o economi ymwelwyr yn 2020… ond mae’r gobaith o gael tymor twristiaid yn 2020 yn edrych yn well o lawer.
“Fyddwn ni ddim jyst yn dewis dyddiad ar hap a dweud ‘dyma pryd rydyn ni’n gobeithio y bydd modd i chi agor.”
Fe wnaeth e sawl datganiad arall yn ystod y gynhadledd, gan gynnwys:
- bod yna ddyddiau anodd i ddod wrth i ragor o bobol golli eu swyddi
- bod angen mwy o gefnogaeth i weithwyr ar gennad ac i’r rhai sy’n hunangyflogedig
- bod angen mwy o gynllunio ar gyfer busnesau ar ddiwedd y cyfnod cynnal swyddi ac yn sgil Brexit
- bydd ychydig iawn o wahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru o ran agor siopau eto pan ddaw’r amser yng Nghymru