Mae Trafnidiaeth Cymru am brynu miloedd o litrau o hylif diheintio dwylo gan ddistyllfa newydd fydd yn helpu i gefnogi staff rheilffyrdd rheng flaen ledled Cymru a’r Gororau.

Ar ddechrau’r flwyddyn, bwriad gwreiddiol Castell Hensol ym Mro Morgannwg oedd agor ysgol jin yn seler y castell sy’n dyddio’n ôl i’r ail ganrif ar bymtheg.

Ond, wrth i’r pandemig ddatblygu, fe wnaethon nhw newidiadau brys i’w cynlluniau ar gyfer eu distyllfa a dechrau cynhyrchu hylif diheintio dwylo at ddibenion diwydiannol – er mwyn diwallu anghenion gweithwyr rheng flaen.

Ers dechrau’r pandemig, mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch staff a chwsmeriaid trwy:

  • gynyddu timau glanhau
  • cyflawni gwaith glanhau ychwanegol mewn gorsafoedd, depos a threnau
  • cyflwyno cynhyrchion glanhau gwrthfeirws newydd

Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi archebu poteli 100ml maint poced a Jerrican 2.5 litr o’r diheintydd.

Diwallu anghenion

“Unwaith y gwelon ni’r angen brys oedd gan y Gwasanaeth Iechyd ac mewn mannau eraill, fe wnaethon ni newid ein distyllfa i gynhyrchu diheintydd dwylo gan fynd ati i sefydlu cadwyn gyflenwi allai ddiwallu’r galw brys,” meddai Simon Davies o Ddistyllfa Castell Hensol.

“Er y digwyddodd y newid yn sydyn, doedd hi ddim bob amser yn rhwydd i oresgyn llawer i rwystr, yn enwedig gyda’r gadwyn gyflenwi, gan fod rhai cyflenwyr yn awyddus i wneud cryn elw o’r galw am y cynnyrch.

“Gyda help Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru fodd bynnag, rydym wedi gallu sefydlu cadwyn gyflenwi gadarn ac ar ben ein digon yn diwallu anghenion gwasanaethau allweddol mewn cyfnod mor anodd.

“Bydd y cyflenwad yn parhau am cyn hired a bod ein hangen i helpu i gefnogi gwasanaethau rheng flaen.”

Diogelu

“Mae Castell Hensol wedi ymuno yn yr ymdrech ragorol y mae busnesau yn ei gwneud ledled Cymru sydd wedi newid y ffordd y maen nhw’n gweithio er mwyn ein helpu ni mewn cyfnod o argyfwng,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a gogledd Cymru.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i weithio’n galed i ddiogelu teithwyr rheilffyrdd a bydd yr archeb hwn yn eu helpu nhw i ofalu nid yn unig am les eu staff ond am les eu teithwyr hefyd.”