Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi dros £42,000 i fanciau bwyd ar ffurf talebau bwyd.
Bydd oddeutu 14 o fanciau bwyd yn derbyn cyfran o’r arian ar ffurf talebau o incwm sydd wedi ei gynhyrchu o baneli solar ar adeiladau’r Cyngor.
Bydd pob banc bwyd yn cael rhestr o gyflenwyr er mwyn gallu cludo nwyddau.
Mae’r rhodd yn cynrychioli gwerth oddeutu £70,000 am bob megawat o solar sydd wedi cael ei osod, sef y taliad unigol mwyaf am bob megawat o solar sydd wedi cael ei osod ar gyfer unrhyw gymdeithas budd cymunedol, ffermydd solar masnachol neu bortffolio yn y Deyrnas Unedig.
Ymysg yr adeiladau lle y mae paneli solar wedi’u gosod mae Ysgol Heol Goffa yn Llanelli, Ysgol Glan-y-Môr ym Mhorth Tywyn, Canolfan Hamdden Caerfyrddin ac Xcel Bowl yng Nghaerfyrddin.
‘Rhoi bwyd ar fyrddau’
“Nawr yn fwy nag erioed mae pobl yn gorfod defnyddio’r banciau bwyd i roi bwyd ar eu byrddau,” meddai’r Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Adnoddau a chyfarwyddwr Egni Sir Gâr.
“Mae’n gyfnod heriol i bawb wrth i’r pandemig coronafeirws barhau.
“Trwy ailgylchu ein solar, bydd y taliad llog yn helpu’r rheiny sy’n cael anhawster ac sy’n methu â fforddio hanfodion mewn bywyd.”
Mae Egni Sir Gâr Cyfyngedig yn gymdeithas budd cymunedol o ran egni a gafodd ei sefydlu gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2015.
Ers hynny, mae 16 o baneli solar ben to wedi cael eu gosod ar adeiladau’r Cyngor.
Mae’r trydan gafodd ei gynhyrchu dros y 12 mis diwethaf yn cyfateb i ostyngiad o 290 o dunelli o CO2e sy’n cyfrannu tuag at ymrwymiad y Cyngor i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.