Mae rhieni Madeleine McCann yn gwadu adroddiadau eu bod nhw wedi derbyn llythyr gan heddlu’r Almaen yn dweud bod eu merch fach wedi marw.

Mae Kate a Gerry McCann wedi cyhoeddi datganiad ar y we yn beirniadu adroddiadau sydd wedi achosi “pryder diangen i ffrindiau a theulu, ac sydd unwaith eto wedi tarfu ar ein bywydau”.

Maen nhw’n dweud bod “sawl stori anghywir” wedi ymddangos yn y wasg yn ddiweddar.

“Mae’r newyddion sydd wedi’i adrodd yn eang yn dweud ein bod ni wedi derbyn llythyr gan awdurdodau’r Almaen sy’n nodi bod yna dystiolaeth i awgrymu neu brofi bod Madeleine wedi marw yn ffals,” meddai’r cwpl.”

Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n fodlon rhoi diweddariadau parhaus am y sefyllfa gan mai rôl yr awdurdodau yw hynny.

Maen nhw’n dweud nad yw unrhyw sylwadau yn y wasg yn dod ganddyn nhw oni bai eu bod nhw hefyd yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan bersonol, ac y byddai unrhyw ddatganiadau swyddogol yn dod drwy law’r heddlu.

Honiadau’r awdurdodau

Yn ôl yr erlynydd Hans Christian Wolters, sy’n arwain yr ymchwiliad i’r unigolyn dan amheuaeth o fod yn gyfrifol am ddiflaniad Madeleine McCann, mae llythyr wedi mynd at Kate a Gerry McCann.

Ond mae’n gwrthod datgelu cynnwys y llythyr.

Ond mae’r Sun yn adrodd bod y llythyr yn dweud bod eu merch fach wedi marw, ac nad oes modd datgelu pa dystiolaeth sydd i brofi hynny.

Maen nhw’n adrodd ymhellach fod y llythyr yn dweud bod heddlu Prydain yn gwybod am y sefyllfa ond nad oes ganddyn nhw’r dystiolaeth i gyd.

Mae’r awdurdodau’n credu bod Christian Brueckner, 43, wedi lladd y ferch fach yn fuan ar ôl ei chipio o fflat yn Praia de Luz ym mis Mai 2007.

Mae e dan glo yn yr Almaen am droseddau’n ymwneud â chyffuriau ac yn apelio yn erbyn dedfryd am dreisio dynes 72 oed yn Praia de Luz yn 2005.

Dydy’r awdurdodau ddim eto wedi ei holi ac mae e wedi’i amau o sawl trosedd arall yn erbyn merched ifanc, gan gynnwys diflaniad merch chwech oed yn 2015.

Mae hefyd wedi’i amau o dreisio a llofruddio bachgen 13 oed yn yr Almaen yn 1998.