Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf yn cwrdd y prynhawn yma i drafod ymhellach y posibilrwydd o ganiatáu ardaloedd eistedd awyr agored yn nhref Pontypridd.

Hyd yn hyn, mae’r Cyngor Sir wedi gwrthod y cais am ardaloedd awyr agored ac mae hyn wedi ennyn cryn wrthwynebiad gan fusnesau a chynghorwyr y dref, gan arwain at sawl deiseb yn cael eu sefydlu.

Yn dilyn cyfnod anodd iawn i fusnesau Pontypridd o ganlyniad i’r llifogydd ar ddechrau’r flwyddyn ac yna’r pandemig, mae rhai busnesau wedi bod ar gau ers mis Chwefror, a theimla rhai y byddai ailagor y busnesau gydag ardaloedd eistedd awyr agored yn ffordd o ail gynnau economi’r dref.

Yn ôl Heledd Fychan, Cynghorydd Tref Pontypridd a chynghorydd y dref ar y Cyngor Sir, fe wnaeth y Cyngor Sir wrthod y cais er mwyn diogelu’r cyhoedd am fod yna gryn dipyn o waith adnewyddu yn mynd rhagddo yn y dref o hyd yn dilyn y llifogydd, yn ogystal â datblygiad mawr sydd ar waith yno.

Mae’n cydnabod fod yna un stryd benodol lle byddai diogelwch y cyhoedd yn broblem wrth geisio cael byrddau allan a cheisio cael lle ar y palmentydd.

“Ond mae nhw wedi gwrthod ar hyd yr holl strydoedd hyd yn oed y rhai heb draffig,” meddai wrth golwg360.

“Felly rydw i wedi bod yn gweithio gyda busnesau i geisio pwyso ar y Cyngor i ailystyried ac i ailagor y strydoedd sydd ddim yn cael eu heffeithio gan draffig.

“Felly rydyn ni wir yn gobeithio y bydd y cyngor yn ailfeddwl y penderfyniad, oherwydd yn amlwg mae hi wedi bod yn ergyd drom i nifer o fusnesau.”

Annheg

“Mae hi wedi bod yn ddigon drwg ledled Cymru hefo Covid, ond hefo’r llifogydd hefyd mae ‘na nifer o fusnesau sydd ddim wedi gallu agor ers canol mis Chwefror, felly mae wedi bod yn amser ofnadwy o hir,” meddai wedyn.

“Mi fyddai hwn wedi bod yn hwb i allu agor rhai elfennau o ddoe ymlaen, ond i gael hynny wedi ei wrthod hefyd mae busnesau yn teimlo ei fod o’n eithriadol  o annheg.”

Yn ôl Heledd Fychan mae’n amlwg fod cynghorau gweddill Cymru wedi bod yn weithgar iawn yn sicrhau fod yna fwy o le yn cael ei roi er mwyn i fusnesau allu rhoi cadeiriau a byrddau y tu allan, ac felly mae’n teimlo fod penderfyniad Cyngor Rhondda Cynon Taf yn “od iawn.”

“Yn amlwg, os na fyddan nhw’n ailystyried, dwi’n meddwl y bydd yn rhaid i ni weld sut y gallwn ni gael Llywodraeth Cymru i ymyrryd, oherwydd hefo pob diwrnod sydd yn mynd heibio mae yna golled bellach i’r busnesau ac maen nhw ddirfawr angen yr arian yma ar unwaith.”