Mae bwytai ym Mhowys yn cael eu hannog i fanteisio ar gynllun gostyngiad Llywodraeth Prydain i gael y diwydiant yn ôl ar ei draed wedi’r coronafeirws.

Yn ôl y cynllun ‘Estyn Llaw drwy Fwyta Allan’, a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor Rishi Sunak fel rhan o becyn i adfer yr economi, gall cwsmeriaid gael gostyngiad o 50% neu hyd at £10 y pen o ddydd Llun i ddydd Mercher trwy gydol mis Awst, a gall busnesau hawlio gwerth y gostyngiad yn ôl gan y llywodraeth.

Fe fu modd i bobol gofrestru ar gyfer y cynllun ers ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 13), ac fe fydd yn cael ei gynnig o Awst 3, a busnesau’n gallu hawlio’r arian yn ôl gan yr Adran Gyllid a Thollau yn wythnosol o Awst 7.

‘Newyddion da’

“Dyma newyddion da,” meddai’r Cynghorydd James Evans, sy’n gyfrifol am faterion yr Economi a Gwasanaethau Rheoleiddio’r Cyngor Sir.

“Bydd y cynllun disgownt yn helpu mwy o’n busnesau lleol wrth iddynt ail-godi o effeithiau economaidd y feirws.

“Rwy’n annog bwytai ar draws Powys i agor eu drysau ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher trwy gydol mis Awst er mwyn elwa o’r cynllun hwn.

“Rydym yn sylweddoli nad yw pob bwyty’n tueddu i agor ar ddechrau’r wythnos gan ei fod fel arfer yn dawelach, ond dyma gyfle euraid i roi hwb i’r busnes.

“Yn fuan iawn, bydd busnesau sydd wedi cofrestru’n gallu llwytho deunydd parod i’w helpu i hyrwyddo’r cynllun a rhoi gwybod i gwsmeriaid eu bod yn cymryd rhan.

“Rydym hefyd yn annog trigolion Powys i ddefnyddio’r disgownt hwn a bwyta allan o ddydd Llun i ddydd Mercher.  Nid yn unig y byddwch yn arbed arian, ond byddwch hefyd yn helpu’r sector lletygarwch i fynd nôl ar ei draed.

“Wrth gwrs bydd pobol braidd yn bwyllog am fynd allan, ond mae’r cyfyngiadau’n cael eu llacio mewn ffordd ofalus ac mae busnesau’n gwneud popeth yn eu gallu i roi’r mesurau diogelwch cywir mewn lle.

“Mae’r cyngor wedi sefydlu ymgyrch #PrynuLleolPowys sy’n gofyn i bobl wario arian yn lleol lle’n bosibl.  Mae’r cynllun amserol hwn yn cynnig ffordd rad a hwylus i wneud hynny.

“Gallwch fanteisio ar y cynnig hwn fel y mynnwch chi dros gyfnod y cynllun, felly manteisiwch ar y cyfle a mynd i fwyta allan dros yr wythnos.”