Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth wedi gostwng 19.1% yn y tri mis hyd at fis Mai, yn dilyn gostyngiadau yn y tri mis hyd at fis Mawrth a’r tri mis at Ebrill.

Er hyn, cododd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth 1.8% fis Mai, ond mae hynny dal yn is na lefelau mis Chwefror.

Mae’r sector gwasanaethau wedi gostwng 18.9% yn y tri mis at fis Mai.

Daw hyn yn sgil gostyngiadau ym mron pob diwydiant, gan gynnwys:

  • Addysg, wnaeth ostwng 37.8% yn sgil cau ysgolion yn ystod Mawrth, Ebrill a Mai.
  • Iechyd, wnaeth ostwng 31.4% yn sgil llai o weithgaredd mewn gweithredoedd a llai o ymweliadau damwain ac argyfwng.
  • Gwasanaeth Bwyd a diod, wnaeth ostwng 69.3% yn sgil cau bwytai a thafarndai drwy gydol Mawrth, Ebrill a Mai

Mae’r corff gwarchod cyllidol, Y Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb (OBR), wedi rhybuddio ei bod hi’n bosib na fydd economi’r Deyrnas Unedig yn adfer o bandemig y coronafeirws tan 2024.

Rhybuddia’r corff gwarchod bod “y Deyrnas Unedig ar y trywydd i gofnodi’r gostyngiad mwyaf mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) er 300 blynedd”, gydag economi’r Deyrnas Unedig yn crebachu 14.3% eleni.

Dywed ei bod yn bosib na fydd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn cael ei adfer i lefelau cyn y coronafeirws cyn trydydd chwarter 2024.

Bydd mesurau’r Llywodraeth i fynd i’r afael ag effaith y feirws hefyd yn arwain at “gynnydd digynsail mewn benthyg” eleni, i 13-21% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, gyda’r OBR yn darogan benthyciadau o £322bn.

Mae disgwyl i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y Deyrnas Unedig ddisgyn 10.6% hyd yn oed yn yr ragolygon mwyaf uchelgeisiol, yn ôl yr OBR.

Mae adroddiad yr OBR hefyd yn dweud bod polisïau’r Llywodraeth gafodd eu cyhoeddi cyn Mehefin 26 wedi codi ei ragolygon benthyg oddeutu £142bn am y flwyddyn ariannol.

Tra gallai mesurau gafodd eu cyflwyno yn natganiad haf y Canghellor yr wythnos ddiwethaf ychwanegu £50bn pellach at fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn.