Mae’r argyfwng coronafeirws wedi “newid cyd-destun” y ddadl dros annibyniaeth i Gymru, yn ôl Adam Price.
Dywed arweinydd Plaid Cymru fod “ymwybyddiaeth genedlaethol” wedi cael hwb yn sgil ymatebion cyferbyniol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig yn y Senedd i drafod a ddylai gweinidogion Cymru gael yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol.
Mae angen caniatâd San Steffan ar hyn o bryd.
Dywedodd Adam Price fod y cynnig, fydd i’w glywed yfory (dydd Mercher, Gorffennaf 15), wedi ei ysgogi gan gynnydd yn hunanhyder y genedl oherwydd yr amrywiaeth yn ymateb Cymru a Lloegr wrth ymateb i’r pandemig.
“Rwy’n credu ei fod wedi achosi i lawer mwy o bobl gwestiynu’r dyfodol i Gymru fel cenedl, p’un a ydym mewn gwirionedd mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau drosom ein hunain,” meddai.
“Dwi’n meddwl bod hynny wedi newid y cyd-destun, yn llwyr.
“Ac rwy’n credu bod pobol yn gweld gwleidyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, y Senedd, yr etholiadau y flwyddyn nesaf, dyfodol Cymru fel cenedl yn y termau cyfansoddiadol hyn drwy lens gwahanol iawn, hyd yn oed o’i gymharu ag ychydig fisoedd yn ôl.
“Rwy’n credu yng nghanol y cwmwl tywyll hwn, argyfwng y coronafeirws, o ran democratiaeth Cymru, fod yna linyn arian yno oherwydd ein bod yn cael sgwrs genedlaethol.
“Mae ymwybyddiaeth genedlaethol o Gymru, Llywodraeth Cymru, rôl y Prif Weinidog, a Gweinidog Iechyd Cymru, Gweinidog Addysg Cymru…
“Ac rwy’n credu bod hynny’n newid cyd-destun y ffordd rydym nid yn unig yn ystyried gwleidyddiaeth Cymru yn y misoedd i ddod ac yn arwain at yr etholiad nesaf, ond ar y cwestiwn dyfnach ynglŷn â ble rydym am fod fel cenedl dros y ddegawd nesaf, a’r cwestiwn sylfaenol i ni wrth gwrs yw annibyniaeth.”
‘Torri’n rhydd’
Ym mis Mehefin, datgelodd arolwg barn Baromedr Cymru fod 62% o’r rhai wnaeth ateb o’r farn bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin â’r argyfwng yn dda, o’i gymharu â dim ond 34% ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywed Adam Price y byddai’r ymateb “cadarnhaol ar y cyfan” i Lywodraeth Mark Drakeford yn peri i’r cyhoedd gwestiynu a fyddai’n well torri’n rhydd o Loegr.
“Rwy’n credu ein bod wedi gweld, yn yr ardaloedd hynny lle nad yw pethau wedi gweithio cystal, mae’n tueddu i fod lle’r ydym wedi gwrando ar y math o mantra ‘ San Steffan sy’n gwybod orau,” meddai.
“Wel, dydy Steffan ddim bob amser yn gwybod orau, fel rydyn ni wedi’i weld, ac rwy’n credu bod hynny wedi cael ei nodi’n eithaf clir dros y misoedd diwethaf.”
Ond mae Adam Price yn cydnabod na fydd annibyniaeth yn derbyn cefnogaeth eang gan y cyhoedd oni bai eu bod yn cael “atebion manwl” i gwestiynau ar arian, perthnasoedd rhyngwladol a ffiniau ar gyfer Cymru annibynnol.
Polau Piniwn
Dywed y byddai Comisiwn Annibyniaeth ei blaid yn cyhoeddi adroddiad yn ddiweddarach eleni cyn etholiadau’r Senedd yn 2021 ar sut y byddai Cymru annibynnol yn edrych.
Yn ogystal, datgelodd pôl piniwn fis Mehefin fod 25% o bleidleiswyr yn cefnogi annibyniaeth pe bai refferendwm y diwrnod wedyn, y lefel uchaf erioed o gefnogaeth a gafodd ei chofnodi.
Ond canfu’r un pôl hefyd y byddai 25% o’r bobol a gafodd eu holi yn dewis diddymu Senedd Cymru pe bydden nhw’n cael refferendwm ar wneud hynny.