Mae Leo Varadkar, Tanaiste neu ddirprwy arweinydd Iwerddon, wedi wfftio’r posbilirwydd o gyflwyno cwarantîn gorfodol ar bobol sy’n teithio i’r wlad.

Dywed fod y cynllun wedi bod yn “drychinebus” yn Awstralia.

Fe fu rhai yn galw am gwarantîn i bobol sy’n teithio o wledydd lle mae nifer fawr o achosion.

Er bod swyddogion meddygol yn dweud y byddai’n “fesur dymunol”, maen nhw’n dweud mai mater i’r Llywodraeth yw gwneud y penderfyniad.

Yn ôl Leo Varadkar, mae’r Adran Iechyd a Llywodraeth yn dweud na fyddai’n ymarferol cyflwyno cwarantîn gorfodol.

“Mae’n bosib iawn y bydd y pandemig hwn yn parhau am flynyddoedd hyd nes bod gennym frechlyn neu driniaeth effeithiol, ac nid yw’n ymarferol torri ein hunain i ffwrdd o safbwynt teithio’n rhyngwladol am gyhyd – boed yn fusnes, hamdden, gweithwyr allweddol, pobol yn ymweld â ffrindiau a pherthnasau, pobol yn dod adref,” meddai wrth Newstalk FM.

“Y nod oedd gwastadu’r gromlin, tawelu’r feirws, ac nid i ddileu’r feirws.

“Roedd Seland Newydd yn credu eu bod nhw wedi gwneud hynny a dydyn nhw ddim – mae ganddyn nhw achosion newydd bob dydd erbyn hyn.

“Fe wnaeth Awstralia roi cynnig ar gwarantîn gorfodol ac fe wnaeth hynny droi’n dipyn o drychineb.

“Mae’r canolfannau, y gwestai lle maen nhw’n rhoi pobol mewn cwarantîn, yn dod yn glystyrau haint a nawr mae Melbourne yng nghanol ail glo.”

Dywed fod y llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi rhestr o wledydd diogel i deithio iddyn nhw heb orfod mynd i gwarantîn am wythnos.

Doedd dim marwolaethau newydd yn Iwerddon ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 13), ac mae cyfanswm o 1,746 o bobol wedi marw ers dechrau’r ymlediad yno.

Roedd 11 o achosion newydd erbyn diwedd y dydd ar ddydd Sul (Gorffennaf 12), gan fynd â’r cyfanswm i 25,639.