Mae arweinydd Plaid Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru newid eu polisi ar fygydau cyn gynted â phosib er mwyn osgoi “peryglu bywydau”.

Yn ôl Adam Price, mae’r wyddoniaeth a’r cyngor ynglŷn â gwisgo gorchuddion wyneb wedi newid ac mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb i’r newid hwnnw.

Yn nes ymlaen heddiw, mi fydd Llywodraeth Lloegr yn cyhoeddi, y bydd hi’n orfodol o Orffennaf 24 i wisgo mwgwd mewn siopau ac archfarchnadoedd yn Lloegr.

Hyd yn hyn, mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cyhoeddi y bydd gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru o Orffennaf 27, ond mae wedi awgrymu y gallai hynny newid yn dibynnu ar gyflwr y firws yng Nghymru.

‘Y wyddoniaeth wedi newid’

Ar raglen Taro’r Post, BBC Radio Cymru y bore yma dywedodd Adam Price fod y wyddoniaeth bellach wedi newid, a bod angen i Lywodraeth Cymru ddilyn yn ôl troed Lloegr ar y mater yma ac ymateb mor fuan ag sy’n bosib i’r wyddoniaeth gan fod “bywydau yn y fantol.”

“Yn sicr mae angen rhoi canllawiau i bobl ynglŷn a sut i ddefnyddio nhw’n gall,” meddai Adam Price.

“Ond mae’r wyddoniaeth ddiweddaraf, er enghraifft rhag amcan o ganolfan arbenigedd yng Ngogledd America yn dangos pe na bai ni yn dod a’r polisi yma mewn i sefyllfaoedd caeedig mewn siopau, mi all 20,000 o bobl farw erbyn mis Tachwedd ar draws y Deyrnas Gyfunol – byddai hynny’n cyfateb i 1000 o bobl yng Nghymru.

“Mae hynny’n sylweddol.

“Felly mae pob dydd lle mae Llywodraeth Cymru yn oedi rhag dod a’r polisi yma i mewn yn peryglu bywydau yn ôl y wyddoniaeth sydd mas yna ar hyn o bryd.

“Felly mae’n rhaid iddyn nhw newid y polisi mor fuan a sy’n bosib.”