Mae dyn 20 oed o Aberpennar wedi cael ei garcharu am achosi marwolaeth ei gefnder trwy yrru’n ddiofal.

Cafodd Ethan Roberts ei garcharu am chwe mis pan aeth gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener (Gorffennaf 10).

Roedd ei gefnder Ryan Hamer, 20, yn teithio yn y car Toyota Yarris pan gollodd Ethan Roberts reolaeth wrth y llyw ar ffordd A4059.

Aeth y car ar draws yr heol a glanio mewn clawdd cyn moelyd.

Roedd e newydd gasglu Ryan Hamer o barti ac yn cludo dau berson arall i glwb nos yn Aberdâr pan ddigwyddodd.

Bu farw Ryan Hamer yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac fe ddaeth archwiliad post-mortem i’r casgliad iddo farw yn sgil torri ei wddf.

Bu’n rhaid i’r tri arall, gan gynnwys Ethan Roberts, dderbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol ond maen nhw i gyd wedi gwella erbyn hyn.

Cafodd y gyrrwr ei arestio a’i gyhuddo cyn pledio’n euog i’r cyhuddiadau.

Mae hefyd wedi’i wahardd rhag gyrru am 39 mis, a fydd yn dechrau ar ôl iddo adael y carchar.