Mae cyn-Aelod Seneddol yr SNP wedi troi at blaid newydd tros annibyniaeth sy’n cael ei sefydlu mewn da bryd ar gyfer etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf.
Yn ôl Dave Thompson, fydd parhau i gefnogi Nicola Sturgeon a’i phlaid ar restrau rhanbarthol “yn cyflawni dim”.
Fe fydd e’n troi ei sylw bellach at y Gynghrair Annibyniaeth [Alliance for Independence], gan ddarogan y gallen nhw ennill hyd at 24 o seddi wrth geisio dychwelyd cynifer â phosib o ymgeiswyr i’r senedd.
“Fydd pob pleidlais ar restr ranbarthol dros yr SNP ddim yn cael unrhyw effaith,” meddai wrth y Daily Record.
“Fydd e’n cyflawni dim.
“Ond pe bai llawer o’r pleidleisiau hyn yn dod i AFI, byddwn ni’n sicrhau llawer o aelodau seneddol.
“Rydyn ni’n edrych ar unrhyw beth rhwng wyth a 24 aelod seneddol.”
“Cyn gynted ag y byddwn ni wedi lansio, a dw i’n ymuno’n ffurfiol â’r gynghrair, byddaf yn gadael yr SNP.”
Yr SNP yn cefnogi sefydlu pleidiau eraill
Daw ei sylwadau ar ôl i Kenny MacAskill, aelod blaenllaw o’r SNP, ddweud ei fod e’n cefnogi unrhyw ymdrechion i sefydlu pleidiau eraill o blaid annibyniaeth i’r Alban yn barod ar gyfer etholiadau’r flwyddyn nesaf.
Fe ddywedodd Dave Thompson yr wythnos nesaf nad yw pleidleisio dros yr SNP yn y ddwy bleidlais – etholaethau a rhanbarthau – yn llwyddo.
Ond mae Mike Russell, Ysgrifennydd y Cyfansoddiad, wedi wfftio’r dadansoddiad hwnnw.
“Dw i’n credu, er mwyn sicrhau annibyniaeth, fod rhaid i ni gael mudiad unedig,” meddai.
“Mae’r SNP yn amlwg yn rhan allweddol o’r mudiad hwnnw – dw i’n aelod o’r SNP ers dros 40 mlynedd a dw i’n sicr ddim am newid fy marn.”
Mae Mike Russell yn gwrthod trafod y posibilrwydd y gallai Alex Salmond, cyn-brif weinidog yr Alban, ymuno â’r Gynghrair Annibyniaeth.