Mae Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Llundain yn dweud bod penderfyniad Llywodraeth Prydain i’w gwneud hi’n ofynnol i wisgo mygydau wyneb mewn siopau yn Lloegr “yn amhosibl ei orfodi”.

Bydd gwisgo mwgwd mewn siopau ac archfarchnadoedd yn orfodol yn Lloegr yn y cam diweddaraf i geisio atal y coronafeirws.

Mewn datganiad heddiw, bydd Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn dweud y gallai unrhyw un sy’n methu â chydymffurfio â’r Gorchymyn – sy’n dod i rym ar Orffennaf 24 – wynebu dirwy o hyd at £100.

Mae’r newid hwn yn dilyn penwythnos o ddryswch ynghylch a oedd gweinidogion yn bwriadu gwneud mygydau yn orfodol ar ôl i Boris Johnson ddweud eu bod yn edrych ar reolau “llymach”.

Dywedodd Uwch Weinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove ddydd Sul (Gorffennaf 12) nad oedd yn credu y dylen nhw fod yn orfodol a’i bod yn well “ymddiried yn synnwyr cyffredin pobl”.

Fodd bynnag, yn ystod ymweliad â gwasanaeth ambiwlans Llundain ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 13), cynigiodd y Prif Weinidog yr arwydd cliriaf ei fod yn dilyn trywydd gorfodaeth, gan ddweud bod y Llywodraeth yn edrych ar “ddulliau gorfodi”.

“Mae mwy a mwy o dystiolaeth bod gwisgo mwgwd mewn man caëedig yn helpu i amddiffyn unigolion a’r rhai o’u hamgylch rhag coronafeirws,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.

“Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir y dylai pobl fod yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn siopau a byddwn yn gwneud hyn yn orfodol o Orffennaf 24.”

Cyfrifoldeb

“Mae angen i berchenogion siopau  gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb” dywedodd Ken Marsh, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Llundain, wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Mae’n ddigon hawdd iddyn nhw roi arwyddion ar eu drysau ’dim mwgwd ymlaen, dim mynediad, mae hwn yn eiddo preifat’.

“Dyna’r pwynt cyntaf y mae angen i ni ei gyfleu gan na ellir gosod hyn i gyd ar ysgwyddau’r heddlu unwaith eto.

“Yr ail bwynt yw y bydd bron yn amhosibl i’w orfodi oherwydd ni fydd gennych chi swyddog yr heddlu ar bob drws siop gan nad oes digon ohonom.

“Fe fyddwn ni’n gyrru o amgylch Llundain yn chwilio am bobol sydd ddim yn gwisgo mygydau, mae’n hollol hurt.”