Gallai ail don o heintiau coronafeirws y gaeaf hwn fod yn fwy difrifol na’r gyntaf, yn ôl gwyddonwyr.
Mae’n bosib y bydd hyd at 120,000 o farwolaethau mewn ysbytai yn y sefyllfa “waethaf bosibl”, meddai arbenigwyr.
Mae adroddiad newydd gan yr Academi Gwyddorau Meddygol, a gafodd ei gomisiynu gan Brif Gynghorydd Gwyddonol y Llywodraeth Syr Patrick Vallance, yn dweud bod yn rhaid cymryd camau ar unwaith i liniaru’r potensial ar gyfer ail frig o Covid-19.
Mae’n dadlau y gallai ysbytai weld 120,000 o farwolaethau Covid-19 rhwng mis Medi a mis Mehefin nesaf, ar yr un pryd â brwydro yn erbyn ymchwydd yn y galw oherwydd pwysau arferol y gaeaf, gan gynnwys y ffliw.
‘Posibilrwydd nid proffwydoliaeth’
Mae’r adroddiad gan 37 o wyddonwyr ac academyddion yn awgrymu y gall fod uchafbwynt o ran derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021, yn debyg i’r don gyntaf yn ystod gwanwyn 2020 neu’n waeth na hynny.
“Nid proffwydoliaeth yw hyn, ond mae’n bosibilrwydd,” meddai’r Athro Stephen Holgate, Athro Clinigol y Cyngor Ymchwil Meddygol dros imiwffarmacoleg, a arweiniodd yr astudiaeth.
“Mae’r modelu’n awgrymu y gallai marwolaethau fod yn uwch gyda thon newydd o Covid-19 y gaeaf hwn, ond gellid lleihau’r risg o hyn yn digwydd os cymerwn gamau ar unwaith.
“Gyda niferoedd cymharol isel o achosion Covid-19 ar hyn o bryd, mae hyn yn gyfle hollbwysig i’n helpu ni i baratoi am y gwaethaf y gall y gaeaf ei daflu atom.”
Dywed fod angen cymryd camau cyn y gaeaf, gan gynnwys brechu yn erbyn y ffliw ar gyfer y rhai sy’n fregus a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd yr Athro Azra Ghani, Cadeiryddes mewn Epidemioleg Clefydau Heintus yng Ngholeg Imperial Llundain wrth yr asiantaeth newyddion PA:
“Rydym yn edrych ar beth fyddai’r gwaethaf all ddigwydd, pe bai ymyriadau’n cael eu llacio ymhellach, mwy o gysylltiadau rhwng pobl, gall ysgolion fod yn ffactor, pobl yn mynd yn ôl i’r gwaith a’r math hwnnw o beth.
“Mae’r pethau hyn yn creu mwy o gysylltiadau, a bydd pobl dan do yn amlach a bydd mwy o bobl eisiau cyfarfod dan do.”
Dywed fod y firws yn lledaenu’n haws dan do ac yn ystod y gaeaf, rydym yn treulio llawer mwy o amser dan do nag yr ydym yn ei wneud yn ystod yr haf.
Dywed yr adroddiad fod yn rhaid i gyfleusterau’r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol barhau i fod yn ardaloedd di-Covid, a sicrhau bod cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gael ar gyfer y staff, ochr yn ochr â phrofion a mesurau rheoli heintiau.
Osgoi
Daw ar ôl i Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, ddweud wrth gynhadledd y Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 13) fod y Llywodraeth wedi caffael digon o frechlynnau ffliw i gyflwyno’r “rhaglen fwyaf o frechiadau ffliw mewn hanes”.
“Mae’r modelu yn yr adroddiad hwn yn cynrychioli sefyllfa waethaf posibl yn seiliedig ar ddim gweithredu gan y Llywodraeth, ac yn egluro nad yw hyn yn rhagfynegiad,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.
“Diolch i gydymdrechion y genedl, mae’r firws yn cael ei reoli. Fodd bynnag, rydym yn parhau’n wyliadwrus a bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i osgoi ail uchafbwynt a fyddai’n llethu ein Gwasanaeth Iechyd.
“Mae hyn yn cynnwys cynllunio helaeth dros y gaeaf i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd a’r sector gofal, gan ehangu ein gallu i brofi ar raddfa fawr ymhellach, cysylltu â miloedd drwy brofi ac olrhain y Gwasanaeth Iechyd, gweithio’n ddwys ar driniaethau newydd, a chyflenwi biliynau o eitemau PPE i ddiogelu ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.”