Trechu tlodi fydd un o brif flaenoriaethau Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf, yn ôl yr arweinydd Adam Price.

Fe ddaw’r sylwadau wrth iddo amlinellu cynlluniau’r blaid ym maes gofal plant a gofal cymdeithasol.

Wrth galon y cynllun mae addewid i sicrhau bod pawb yn cael gofal o’r crud i’r bedd.

Ymhlith y cynllun mae taliad ar gyfer plant Cymru, gofal plant rhad ac am ddim ar gyfer plant o flwydd oed ymlaen a Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol.

Yn ôl Adam Price, mae tlodi’n “felltith” mewn cymunedau ledled y wlad a dim ond gwaethygu fydd y sefyllfa yn sgil argyfwng economaidd y coronafeirws os na fydd newidiadau radical.

Mae’n addo Llywodraeth Plaid Cymru “ar gyfer pob cenhedlaeth”.

‘Gwerth cymdeithas ofalgar’

“Os yw argyfwng Covid wedi dysgu unrhyw beth inni, mae wedi dysgu i ni werth cymdeithas ofalgar. Troi yn genedl gyfartal lle mae pawb yn gydradd yw cenhadaeth arweiniol Llywodraeth Plaid Cymru,” meddai Adam Price.

“Ar ôl ugain mlynedd o lywodraeth dan arweiniad Llafur, mae 200,000 o blant yn parhau i fyw mewn tlodi yng Nghymru.

“Mae hynny’n fellith ar ein cymunedau ac yn rhywbeth rwy’n benderfynol o’i newid gyda thaliad plant o £35 yr wythnos wedi’i dargedu at deuluoedd sy’n gorfod penderfynu rhwng cynhesu’r cartref a bwydo’r plant.

“Mae’r polisïau uchelgeisiol hyn wedi’u cynllunio i gynnig cyfleon i’r ieuenctid ac urddas i’r rhai yn eu henaint.

“Byddai cynnig gofal plant Plaid Cymru yn rhoi hwb i incwm miloedd o gartrefi, gan ganiatáu i rieni sydd ddim yn gweithio ddychwelyd i’r gweithle a chreu hyd at 3,000 o swyddi newydd.

“Yn yr un modd, bydd y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn gwneud Cymru yn “genedl ofalgar” – gan brisio ein staff gofal â chyflogau sy’n debyg i’r GIG a gwneud gofal cymdeithasol, yn rhad ac am ddim wrth eu darparu.

“Rydw i eisiau arwain llywodraeth ar gyfer pob cenhedlaeth – llywodraeth sy’n cyflawni newid radical, nid er mwyn newid ond er mwyn y miloedd o deuluoedd sydd angen gweld y dyfodol hwnnw.

“Rydw i eisiau i’m mab dyfu i fyny mewn gwlad lle mae tlodi yn atgof pell diolch i’r gred nad oes her rhy fawr i’w goresgyn.

“Etholiad Senedd 2021 yw’r amser ar gyfer newid, a dim ond trwy roi ar waith yr hyn y mae’r Llywodraeth bresennol wedi methu ei gyflawni y gallwn weld newid go iawn.”