Mae traean o bobol sydd â dementia yn teimlo’n ddifater ac yn teimlo fel rhoi’r gorau iddi ar ôl dirywio’n feddyliol ac yn gorfforol yn ystod clo’r coronafeirws, yn ôl ymchwil gan elusen.
Yn ôl arolwg o 1,831 o bobol â dementia a’u gofalwyr fis diwethaf, erbyn hyn nid yw cyfran o’r bobl yn teimlo’n hyderus yn mynd allan wrth i gyfyngiadau ddechrau llacio.
Dementia a chlefyd Alzheimer yw’r cyflwr mwyaf cyffredin sy’n bod eisoes ymhlith bron i 20,000 o breswylwyr cartrefi gofal a fu farw gyda Covid-19 rhwng Mawrth 2 a Mehefin 12, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ystadegau allweddol
- Roedd 45% o’r rhai a gymerodd ran yn dweud bod y clo wedi achosi i’w hiechyd meddwl ddirywio
- Roedd 11% wedi colli ffrindiau ers i’r amodau ymbellháu cymdeithasol gael eu gosod, meddai Cymdeithas Alzheimer
- Dywedodd 46% o ofalwyr di-dâl fod eu hanwyliaid bellach yn teimlo dan straen, yn bryderus neu’n isel.
- Mae tri o bob 10 o bobl â dementia – a 46% o’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain – wedi mynd o leiaf bedwar diwrnod heb gael sgwrs sy’n para mwy na phum munud.
- Mae un o bob wyth wedi datgelu eu bod nhw wedi mynd wythnos gyfan heb dreulio mwy na phum munud yn siarad â rhywun.
Byw gyda dementia neu Alzheimer
Dywedodd Karen Beattie, sydd â’i gŵr â chlefyd Alzheimer, fod y misoedd diwethaf wedi bod yn “ofnadwy” gan ei bod wedi gwylio ei phartner yn dirywio.
Mae’r pâr o Abergele wedi bod yn ynysu gartref ac yn cael bwyd wedi ei gludo iddyn nhw, ond mae’r diffyg tripiau dyddiol wedi achosi i Rob Beattie wrthod cerdded.
“Mae’n ddigalon, yn gwylio’n teledu drwy’r amser, ddim yn siarad â mi weithiau am ddyddiau,” meddai Karen Beattie.
“Mae’n rhaid i mi ei annog i siarad, mae wedi mynd yn wirioneddol ddrwg ac mae’n mynd i waethygu rwy’n meddwl.
“Roedden ni’n arfer mynd o amgylch efo Cyfeillion Dementia ym mhobman mewn prifysgolion ledled Cymru ac ysgolion ac yn y blaen, ac roedd Rob yn arfer gwisgo ei iwnifform, a phan mae’n gwisgo ei iwnifform mae e’n berson hollol wahanol, does dim problemau gyda’r geiriau na dim byd.
“Felly, mae’n colli’r ochr gymdeithasol honno oherwydd ni all fynd allan a gwneud yr hyn yr oeddem yn arfer ei wneud.”
Ymateb
“Wrth i’r clo ddechrau codi a gwir faint yr effaith y mae wedi ei gael ar iechyd a lles pobl â dementia ddod i’r amlwg, mae’n bwysicach nag erioed i sicrhau nad oes neb yn wynebu’r argyfwng hwn ar eu pen eu hunain,” meddai Kate Lee, prif weithredwr Cymdeithas Alzheimer.