Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi galw am ymddiheuriad gan y BBC ar ôl i ohebydd sarhau’r Gymraeg yn fyw ar yr awyr.

Roedd Carrie Gracie, y cyflwynydd newyddion, yn aros i drosglwyddo i gynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru yn y Senedd pan ddywedodd ei bod hi’n “gobeithio na fyddan nhw’n gwneud mwy o Gymraeg”.

Mae Jane Dodds ymhlith y rhai sydd wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i feirniadu’r sylwadau.

“Am beth twp i’w ddweud,” meddai neithiwr.

“Cymraeg yw’n hiaith genedlaethol ac mi wnaeth nifer, gan fy nghynnwys i, gael ein magu’n ei siarad hi fel iaith Gymraeg.

“Gobeithio y bydd y BBC yn cyhoeddi ymddiheuriad ac yn atgoffa’u staff o’r angen i barchu Cymraeg fel y bydden nhw’n parchu unrhyw iaith arall.”

Ymateb Carrie Gracie

Yn ôl Carrie Gracie ar Twitter, dydy hi ddim yn cofio gwneud y sylwadau.

“Wel dw i ddim yn sicr y dywedais i hyn!” meddai.

“Dw i’n cofio dweud nad ydw i’n siarad Cymraeg.

“Wrthi’n gwirio’r llall.”

Dydy’r BBC ddim wedi ymateb hyd yn hyn.

Diweddariad

Mae Carrie Gracie bellach wedi trydar yn Gymraeg yn derbyn y dylai bod “wedi dewis [ei] ngeiriau yn fwy gofalus”.