Yn ystod y clo mawr mae Ysgol Farddol Caerfyrddin wedi bod yn dysgu pobol o bedwar ban byd sut i gynganeddu.

Ers deng mlynedd mae’r Ysgol Farddol wedi bod yn cynnal gwersi cynganeddu ar gyfer dechreuwyr yn ystod misoedd yr haf.

Ond eleni, yn sgil y coronafeirws, penderfynwyd cynnal y gwersi ar lein, gan gyrraedd pobol o du hwnt i Gymru am y tro cyntaf.

“Mae’r ymateb wedi bod yn rhyfeddol, mae pobol o Gymru, Llundain a Phatagonia yn dysgu sut i gynganeddu gyda ni eleni”, meddai Geraint Roberts o Ysgol Farddonol Caerfyrddin.

“Rhaid oedd cyfyngu’r niferoedd i tua 23, ac o ganlyniad bu rhaid gwrthod ryw 15 arall.

“Mae ymrwymiad a brwdfrydedd y grŵp wedi bod yn anhygoel ac mae’r cynnyrch maen nhw wedi bod yn creu wedi bod yn wych.”

Yn dilyn llwyddiant y gwersi a’r seminarau ar lein dros y chwe wythnos diwethaf eglurodd Geraint Roberts fod yr Ysgol Farddol yn bwriadu parhau i gynnal gwersi ym mis Medi a dros y gaeaf.  

Ana Chiabrando Rees

Ana Chiabrando Rees, y Gaiman, Patagonia

Eleni mae 5 o bobol o’r Wladfa wedi bod yn rhan o’r Ysgol Farddol, un o’r rhain yw Ana Chiabrando Rees a fu’n siarad â Golwg360 o’i chartref yn y Gaiman yn Nyffryn Camwy.

“Pan welais y gwersi ar lein gan yr ysgol farddol cofrestrais yn syth!”

A hithau wedi ennill cadair yn Eisteddfod Trefelin ac Eisteddfod Porthmadryn dydy Ana Chiabrando Rees ddim yn anghyfarwydd â barddoni, ond dyma’r tro cyntaf iddi droi ei llaw at gynganeddu.

“Dwi’n teimlo fod y gynghanedd mor glyfar, mor berffaith, ac roeddwn i’n teimlo fy mod eisiau dysgu sut i wneud hyn.

“Dwi wedi bod yn darllen llyfrau am y gynghanedd ers blynyddoedd, mae un gan Mererid Hopwood sydd yn hawdd iawn i’w ddarllen, ond doedd dim cyfle i wneud dim byd yma.

Yn ogystal â rhedeg Tŷ Te Cymreig yn y Gaiman mae Ana Chiabrando Rees hefyd yn dysgu Cymraeg i oedolion.

Eglurodd nad oes llawer o achosion o’r coronafeirws ym Mhatagonia, ond fod y cyfyngiadau wedi ei gorfodi i gau’r Tŷ Te, a’i bod bellach yn cynnal gwersi Cymraeg dros y we.

“Rydym ni mewn cwarantin ers mis Mawrth, does dim llawer o achosion yn nhalaith Chubut ac mae bob dim ar gau – ond mae pethau yn dechrau ailagor nawr.”

“Dwi’n dysgu Cymraeg i oedolion ar Zoom, ac mae 37 o bobol wedi cofrestru mewn llai nag wythnos!

“Mae’r diddordeb wedi bod yn anhygoel!” 

Hugh Evans

Hugh Evans, Sutton, Llundain

Eglurodd Hugh Evans sydd wedi byw yn Llundain ers hanner can mlynedd na fyddai fyth wedi cael y cyfle i ddysgu cynganeddu oni bai am y gwersi ar lein sy’n cael eu cynnig gan yr Ysgol Farddol eleni.

“Yn fy nyddiau i yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, pan yn dewis pynciau roedd rhai dewis rhwng Ffrangeg a Chymraeg – dewis creulon dros ben.

“Er i mi farddoni rhywfaint yn yr ysgol, ar ôl dewis Ffraneg mae’n bosib i mi golli allan ar ambell beth fel y gynghanedd.

“Trwy fy oes dwi wedi meddwl byddai’n dda dysgu mwy am y gynghanedd, a deall mwy am sut i gynganeddu.

“Pan glywais Geraint yn sôn am yr Ysgol Farddol ar raglen Siân Cothi [ar BBC Radio Cymru] – meddyliais dyma oedd y cyfle dwi di bod yn edrych amdano am hanner can mlynedd!”

“Mae’r gwersi wedi bod yn hynod o lwyddiannus.”

Ychwanegodd Hugh Evans fod datblygiadau fel Zoom wedi caniatáu i ddigwyddiadau fynd yn eu blaen, ac wedi dod â phobol yn agosach at ei gilydd.

“Beth mae Zoom wedi gwneud yw dod a phobol sy’n siarad Cymraeg o bedwar ban byd at ei gilydd – sydd yn rhywbeth arbennig.”

“Mae nifer o Gapeli ag Eglwysi yn defnyddio Zoom bellach, ni’n cwrdd ar y we am bump o’r gloch bob nos Sul, ac mae pobol o bob cwr yn ymuno a ni.”

“Am ran fwyaf o’r blynyddoedd bûm yn byw yn Llundain doedd dim modd cael S4C na Radio Cymru, bellach wrth gwrs mae hyn yn bosib, ac mae fy nghopi i o Golwg wedi dod drwy’r drws bore ‘ma – yn sicr mae Cymru wedi dod yn agosach.” 

Garan Rhys

Garan Rhys, Caerdydd

Garan Rhys, bachgen ysgol 16 oed o Gaerdydd, yw’r ieuangaf i fanteisio ar y gwersi cynganeddu ar-lein.

Eglurodd y disgybl o Ysgol Plasmawr ei fod wedi bod yn dysgu Eidaleg yn ogystal â chynganeddu yn ystod y clo mawr.

“Mae diddordeb mawr gyda fi mewn ieithoedd, ond i ddweud y gwir doedd dim diddordeb enfawr gyda fi mewn cynganeddu cyn hyn.

“Ni di cael chwe gwers nawr, ac ar ôl trial cynganeddu fi wir wedi mwynhau.

“Dros y chwe wythnos diwethaf ni di bod yn adeiladu ar y sgiliau a magu hyder yn sut i gynganeddu.”

Ychwanegodd Garan Rhys fod y gwersi wythnosol wedi bod yn gyfle i ddygymod a’r cyfnod yma.

“So ni di cael llawer o gyfle i siarad â phobol yn ystod y cyfnod clo, felly mae wedi bod yn braf siarad gyda phobol newydd.

“Mae’r tiwtoriaid wedi dysgu’r gynghanedd mewn ffordd eglur gan hefyd gynnig profiad gwych i ni yn y cyfnod anodd hwn.

“Mawr yw fy niolch i’r tiwtoriaid a phawb arall am wneud y profiad yn un mor bleserus.”

Siw Harston

Siw Harston, Surrey, Llundain

Clywodd Siw Harston, sydd yn wreiddiol o Landeilo, ond sydd bellach yn byw yn Surrey, am yr Ysgol Farddol gan ffrind iddi ar gyfryngau cymdeithasol.

“Mae wedi bod yn gyfnod od, ond mae wedi rhoi’r cyfle i bobol wneud pethau na fydde nhw wedi cael yr amser i wneud fel arall”, meddai.

“Gan fy mod i’n byw yn Llundain does dim cyfle i mi fynd i wneud cyrisau barddoniaeth fel yma.

Eglurodd Siw Harson fod y tiwtoriaid yn gosod gwaith cartref wythnosol iddynt wneud er mwyn rhoi’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu ar waith.

“Mae’r adborth wedi bod yn wych, ac achos hynny ni wedi dysgu mor gloi.

“Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn ffantastig, mae cymaint o amynedd da nhw.

“Mae wedi bod yn wych i gael rhywbeth arall i feddwl amdano, ffordd newydd i fod yn greadigol ac i gofnodi eich teimladau.

“Dwi hyd yn oed wedi ffeindio fy mod i wedi dechrau barddoni pan allan yn rhedeg gyda’r ci!”

Nid Ysgol Farddol Caerfyrddin yw’r unig rai i gynnig gwersi cynganeddu yn ystod y cyfnod clo – yn ddiweddar cyflwynodd y bardd, Carwyn Eckley, sesiwn farddoniaeth ar DyffrynNantlle360, ac mae’r Eisteddfod Amgen hefyd wedi bod yn cynnig gwersi ar-lein.