Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwaith cadwraeth ar Gapel Coffa Capel Celyn ger y Bala yn dechrau’r wythnos nesaf.

Codwyd y capel yn 1965 i goffáu pentref Capel Celyn, a gafodd ei foddi, ac mae hi’n gofeb genedlaethol o ddiddordeb hanesyddol.

Cafodd llawer o gerrig o gapel gwreiddiol y pentref eu defnyddio i adeiladu’r Capel Coffa sydd ar lan y llyn.

Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am ofalu am y capel fel rhan o’u hymrwymiad i redeg Cronfa Ddŵr Llyn Celyn.

Maen nhw’n bwriadu gwneud gwelliannau i helpu i gadw’r capel yn sych ac i helpu i warchod yr adeilad a’i hanes.

Deall ei bwysigrwydd

“Rydym ni fel cwmni’n deall pa mor bwysig yw Capel Celyn i bobl Cymru a dyna pam y byddwn yn gwneud gwaith cadwraeth ar y Capel Coffa dros y misoedd nesaf, i warchod yr adeilad a’i gymeriad,” meddai Andrew Dixon o Dŵr Cymru sy’n goruchwylio’r gwaith ar Lyn Celyn.

“Dros y blynyddoedd, bu dŵr yn treiddio i’r adeilad a gan iddo gael ei godi heb drydan na gwres, mae wedi mynd yn llaith iawn.

“Rydym wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad yn rheolaidd dros y blynyddoedd ond dyma’r tro cyntaf i ni wneud gwelliannau mawr iddo.

“Yn dilyn hanner canmlwyddiant y Capel Coffa, roeddem yn awyddus i gynnal rhaglen waith mwy cynhwysfawr er mwyn sicrhau ei ddyfodol hirdymor.”

Bydd y gwaith ar y capel yn cynnwys tynnu’r morter presennol, ail-bwyntio y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad ac ailgapio’r to i gadw dŵr glaw allan.

Ychwanegodd Andrew Dixon: “Y llynedd, yn ffodus iawn, cofrestrwyd Capel Coffa Capel Celyn gan Cadw yn adeilad rhestredig Gradd 2* am ei fod o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol arbennig.

“A ninnau’n geidwaid yr adeilad, teimlwn ei bod yn bwysig i ni ei warchod am ddegawdau i ddod”.