Dywed Comisiynydd y Gymraeg ei bod hi’n “ystyried y camau nesaf”, ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin awgrymu nad oedd y Gymraeg yn ystyriaeth wrth gymeradwyo cais cynllunio ar gyfer datblygiad tai yn y sir.

Roedd y cais cynllunio wedi’i gyflwyno gan Jones Bros. (Henllan) Ltd a grŵp Pobl i godi 39 o dai a phedair fflat breswyl ar dir fferm Wern Fraith ym Mhorth-y-rhyd.

Ond roedd nifer sylweddol o wrthwynebwyr i’r cais wedi codi pryderon am effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn yr ardal, sydd ag arwyddocâd ieithyddol arbennig o ystyried y ganran uchel o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yno.

Roedd gwrthwynebwyr yn dweud y byddai’r datblygiad yn cael effaith ar y cydbwysedd ieithyddol, ac roedden nhw wedi bod yn galw am asesiad ieithyddol o unrhyw gamau sydd wedi’u cymryd i warchod y Gymraeg.

Yn ôl polisi sy’n rhan o Gynllun Datblygu Lleol y sir, mae angen cyflwyno datblygiadau tai fesul cam os ydyn nhw ar dir lle mae mwy na phum eiddo o fewn cymunedau lle mae 60% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Roedd y ddogfen gynllunio hefyd yn dweud y byddai’r datblygiad yn cynnwys tai fforddiadwy i bobol leol sy’n medru’r iaith ac sydd eisiau aros yn eu milltir sgwâr, ac y byddai eu plant yn gallu mynd i un o ysgolion Cymraeg yr ardal yn Llanddarog neu Faes y Gwendraeth.

Yn ôl swyddog tai yn ystod y cyfarfod, mae mwy na 4,000 o bobol ar gofrestr dai y sir, ac mae eu hanner nhw’n ‘flaenoriaeth uchel’.

Mae oddeutu 80 o dai ym Mhorth-y-rhyd, ond bydd hynny’n cynyddu ar ôl i’r datblygiad o 42 o dai gael ei dderbyn, gyda 29 ohonyn nhw’n dai fforddiadwy.

Denu pobol ddi-Gymraeg

Ond roedd gwrthwynebwyr yn gofidio y byddai’r rhan fwyaf o bobol sy’n prynu’r tai yn dod o’r tu allan ac yn bobol ddi-Gymraeg, er nad oedden nhw wedi cyflwyno tystiolaeth i gefnogi hynny, medd y ddogfen.

Er bod gwrthwynebwyr yn nodi’r angen i hysbysebu eiddo cyd-berchnogaeth a marchnad agored am wyth wythnos ar gyfer pobol leol fel man cychwyn, ac yn dymuno cyflwyno amod tebyg wrth werthu’r eiddo yn y dyfodol, mae’r Cyngor yn dweud y byddai hynny y tu hwnt i reolaeth gynllunio.

Yn ôl arolwg gafodd ei gwblhau fis Hydref y llynedd, mae 68.5% o drigolion Porth-y-rhyd yn medru’r Gymraeg ond dywed y Cyngor mai’r mesur mwyaf dibynadwy yw’r Cyfrifiad yn 2021, oedd yn nodi mai 55.8% o bobol leol sy’n medru’r iaith yn Llanddarog, sef y ward sy’n cwmpasu Porth-y-rhyd (i lawr o 59.4% yn 2011).

Felly mae’r ffigwr o dan y trothwy o 60% ar gyfer dull graddedig o asesu’r iaith wrth gyflwyno tai newydd i’r ardal.

Yn ôl y ddogfen, byddai rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg yn achosi “oedi diangen” cyn cyflwyno manteision cymdeithasol i’r ardal yn sgil y datblygiad fyddai’n diwallu anghenion tai yr ardal.

Daeth y ddogfen i’r casgliad, felly, na fyddai’r datblygiad yn cael “effaith annerbyniol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y datblygiad hwnnw na’r ardal gyfagos”.

‘Dinistrio’

Un sy’n poeni am y sefyllfa yw Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

“Mae’r Cyfrifiad diwethaf wedi bod yn ddifrifol o ran tynged yr iaith yn Sir Gaerfyrddin,” meddai wrth golwg360.

“Beth dw i wedi bod yn dadlau yw fod y cynlluniau datblygu sydd ar waith ar hyn o bryd ar sail ffigurau Cyfrifiad sy’n hen [o 2011].

“Mae angen pwyllo ac edrych o ran y polisi tai ar sail y ffigurau newydd sydd wedi bod yn y Cyfrifiad [yn 2021].

“Mae sôn am 8,000 o dai ychwanegol yn y cyfnod nesaf, ac yn amlwg wedyn rydyn ni’n siomedig iawn – finnau, trigolion lleol ac ymgyrchwyr ym Mhorth-y-rhyd, gyda’r penderfyniad.

“Mae gyda ni Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg, ac mae’n rhaid gwneud asesiad o’r impact ieithyddol yn rhan o bob proses ddatblygu.

“Dydy’r amddiffynfeydd sydd eu hangen ddim yn cael eu cynnig.

“Y gwirionedd yw fod datblygiad fel hwn yn mynd i ddinistrio’r iaith Gymraeg mewn pentref fel Porth-y-rhyd, sy’n un o’r ychydig bentrefi Cymraeg mwyafrifol sydd ar ôl yn Sir Gaerfyrddin.

“Maen nhw’n gymunedau pwysig.”

Ond dydy sefyllfa Porth-y-rhyd ddim yn unigryw chwaith, yn ôl Jonathan Edwards.

“Rydyn ni wedi cael enghraifft gyffelyb ym mhentref Llangadog yn ddiweddar, lle mae cymdeithas dai wedi adeiladu ystad o dai yn y pentref, ac wrth gwrs, dim trigolion lleol sy’n cael mynediad, achos mae cymdeithasau tai yn dod mewn â phobol o le bynnag maen nhw’n mo’yn a does dim rheolaeth gyda’r cynghorau sir dros le mae cymdeithasau tai yn lleoli eu cartrefi nhw.

“Dyw proffilio ieithyddol ddim yn dda iawn o ran y Gymraeg.

“Yn ysgol y pentref, gyferbyn â’r ystad, mae rhan fwya’r plant yn mynd lawr i Landeilo i’r ysgol Saesneg, ac rydyn ni’n edrych ar rywbeth tebyg yn digwydd ym Mhorth-y-Rhyd, yn anffodus.

“Mae Porth-y-rhyd yn llai na Llangadog, ac felly mae’r effaith o ran y gymuned yn mynd i fod lot yn fwy.”

‘Rôl statudol i’r Comisiynydd yn y fro Gymraeg’

Yn ôl Jonathan Edwards, mae angen rhoi rôl statudol i Gomisiynydd y Gymraeg mewn datblygiadau yn y ‘fro Gymraeg’.

Advocacy role yw hi ar hyn o bryd,” meddai am rôl y Comisiynydd.

“Dw i’n credu bod angen cryfhau pwerau’r Comisiynydd.

“Dyw’r Comisiynydd ddim yn mynd i allu edrych ar bob datblygiad yng Nghymru, felly rydyn ni ond yn sôn am y Comisiynydd yn cael rôl statudol yn y gymunedau bregus yn y fro Gymraeg lle mae’r Gymraeg yn iaith fwyafrifol.

“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n gallu gadael hyn rhagor i awdurdodau lleol, achos mae’n amlwg bo nhw ddim yn becso ambwyti’r iaith Gymraeg. Dyw hi ddim ar ben y rhestr.

“Os mai’r amcan neu’r polisi gwleidyddol yw amddiffyn y Gymraeg fel iaith gymunedol, mae angen rhywun gyda’r awdurdod a’r statws i oruchwylio’r broses a chael y pŵer i ddweud ‘ie’ neu ’na’, a bod hwnna’n rhan allweddol o’r broses gynllunio.

“Os yw’r Llywodraeth yn dod lan â pholisi ac yn dweud eu bod nhw eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, mae angen dweud mai dyna yw eu polisi nhw o ran yr iaith Gymraeg.

“Dyw aspiration ddim yn bolisi, felly y cwestiwn yw sut ydyn ni’n cyrraedd hwnna, sut ydyn ni’n amddiffyn ein cymunedau Cymraeg.

“Dyw’r gyfundrefn sydd gyda ni ar hyn o bryd ddim yn gweithio.

“Rwy’n credu wedyn bod rhaid i’r Comisiynydd arwain yr holl strategaeth, ac mae eisiau cryfhau pwerau’r Comisiynydd yn sylweddol.

“Dyna beth dw i’n galw amdano, a’r unig bobol sy’n gallu gwneud hynny yw Llywodraeth Cymru, fel bod y Comisiynydd yn gallu ymyrryd mewn achosion fel hyn i sicrhau bo ni ddim yn cael y math hyn o bethau’n digwydd.”

Ymateb

Wrth ymateb, dywed Comisiynydd y Gymraeg nad yw’n “teimlo fod ystyriaeth gydwybodol wedi ei rhoi i’r effeithiau ar y Gymraeg” yn achos y datblygiad hwn.

“Yng nghyd-destun y datblygiad ym Mhorth-y-rhyd, bu fy swyddogion mewn cyswllt â’r Cyngor yn gofyn a oedd asesiad wedi ei gynnal o effaith y cais ar y Gymraeg,” meddai Efa Gruffudd Jones.

“Mewn ymateb, nododd y Cyngor nad oedd angen gwneud asesiad gan nad yw’r ward dan sylw yn cael ei hadnabod fel un o sensitifrwydd ieithyddol o dan y Cynllun Datblygu Lleol presennol.

“Mae safonau’r Gymraeg yn creu dyletswydd ar gynghorau, wrth lunio neu addasu polisi, i ystyried effeithiau y penderfyniad polisi ar y Gymraeg. Nid ydym yn teimlo fod ystyriaeth gydwybodol wedi ei rhoi i’r effeithiau ar y Gymraeg yn yr achos hwn.

“Yn ein gohebiaeth wreiddiol gyda’r Cyngor, fe wnaethom ofyn iddyn nhw weithredu ar fyrder i gynnal asesiad o effaith y cynnig ar y Gymraeg, gan rannu canfyddiadau’r asesiad ymlaen llaw gyda’r rhai hynny fydd yn penderfynu’r cais.

“Mae’n anffodus na weithredwyd yr argymhelliad hwnnw, ac rydym yn awr yn ystyried ein camau nesaf.”

“Dim gofyniad polisi” i ystyried y Gymraeg wrth drafod cais cynllunio yn Sir Gâr

Dydy Porth-y-rhyd ddim yn cyrraedd trothwy Cyngor Sir Caerfyrddin o 60% er mwyn ystyried codi tai bob yn dipyn