Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi ei hymgeisydd am etholaeth y Rhondda yn etholiad y Senedd yn 2021.

Mae Elizabeth Williams, sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel Buffy, yn byw ym Mhentre gyda’i gŵr a thri o blant ac mae hi wedi byw yn y Rhondda ar hyd ei oes.

Dywed Llafur fod ganddi record hir sefydlog o gefnogi pobol yn y Rhondda.

Mae hi’n hanfodol yng ngwaith Canolfan Pentre, hwb cefnogaeth sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr er budd y gymuned.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae hi wedi gweithio’n “ddiflino” i helpu i ddelio â’r difrod achoswyd gan Storm Dennis yn ogystal â danfon pecynnau cefnogaeth a chyflenwadau i’r bobol fwyaf bregus ar draws y Rhondda.

Cafodd gwaith Buffy a gwirfoddolwyr eraill ei gydnabod gan y sêr teledu Mary Berry, Sue Perkins a Mel Giedroyc yn 2017, wnaeth drefnu sypreis iddyn nhw yng Nghanolfan Pentre.

“Rhondda yw fy nghartref ac rwyf yn falch iawn o ein cymunedau,” meddai Buffy Williams.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddigynsail ac mae cymunedau ar draws y Rhondda wedi dioddef yn sgil Storm Dennis a’r pandemig.

“Dwi eisiau bod yn y Senedd yn brwydro dros ein hardal.”