Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael ei chondemnio am eithrio gweithwyr gofal cymdeithasol o’i rheolau mewnfudo newydd, sydd wedi cael ei labelu’n “draed moch”.
Daeth cyhoeddiad ddydd Llun (Gorffennaf 13) yn dweud y bydd fisa iechyd a gofal yn golygu bod gweithwyr iechyd yn cael gweithio yn y Deyrnas Unedig, ond bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu heithrio.
Mae elusennau a grwpiau cymunedol yn gofidio y bydd system mewnfudo newydd ar sail pwyntiau yn eithrio glanhawyr, porthorion, a staff cymorth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Traed moch”
Ni ddylai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol gael ei ystyried fel gwasanaethau ar wahân, meddai prif weithredwr Coleg Brenhinol Nyrsio, y Fonesig Donna Kinnair.
“Unwaith eto, rydym yn siomedig i weld cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer system mewnfudo’r dyfodol yn methu’n llwyr i ddarparu’r hyn sydd ei angen er mwyn cyflawni anghenion gweithlu’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, nawr ac yn y dyfodol,” meddai.
Tra bod ysgrifennydd cenedlaethol undeb llafur y GMB, Rehana Azam, wedi dweud: “Mae rheolau mewnfudo newydd y Llywodraeth yn draed moch, ac yn rhoi dim ystyriaeth na chydnabyddiaeth i’r gwaith hanfodol mae gweithwyr gofal wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf”.
“Dinasyddion ail ddosbarth”
Mae prif weithredwr yr elusen Care England, Martin Green, wedi dweud bod y Llywodraeth yn trin gweithwyr gofal cymdeithasol fel “dinasyddion ail ddosbarth”.
“Mae penderfyniad y Llywodraeth i beidio cynnwys gweithwyr gofal iechyd yng nghynllun fisa’r Gwasanaeth Iechyd yn esiampl arall o sut mae’r Llywodraeth yn trin gweithwyr gofal cymdeithasol fel dinasyddion ail ddosbarth,” meddai.
Cynlluniau’r Llywodraeth
Bydd yn rhaid i bobol sydd eisiau byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig ennill 70 pwynt er mwyn gallu gwneud cais am fisa.
Bydd pwyntiau’n cael eu rhoi am ofynion megis gallu siarad Saesneg, cael cynnig swydd gan gyflogwr cymeradwy, a chyrraedd trothwy isafswm cyflog.
“Mae ein hymgynghorwyr ymfudo annibynnol wedi dweud nad mewnfudo yw’r unig ateb, a dyna pam rydym yn darparu £1.5 biliwn o gyllid gofal iechyd ychwanegol i gynghorau yn 2021/22, yn ogystal â lansio ymgyrch recriwtio,” meddai llefarydd swyddogol y Prif Weinidog Boris Johnson.
Gall gweithwyr gofal iechyd o’r Undeb Ewropeaidd wneud cais i aros yn y Deyrnas Unedig yn sgil y cynllun setlo “ac mae nifer fawr ohonynt wedi gwneud hynny,” meddai’r llefarydd.