Mae Aelod Seneddol Arfon Hywel Williams a’r Aelod o’r Senedd Siân Gwenllian wedi galw am eglurder ynghylch ailagor stryd fawr Bangor.

Daw hyn wyth mis ar ôl iddi gael ei chau i gerbydau yn dilyn tân difrifol ym mwyty Noodle One.

Mae Hywel Williams a Siân Gwenllian yn pryderu bod y gwaith o adfer y stryd yn mynd ei flaen yn rhy araf.

“Mae wyth mis bellach wedi mynd heibio ers i stryd fawr Bangor gau i gerbydau yn dilyn tân difrifol a arweiniodd at ddifrod strwythurol sylweddol ym mwyty Noodle One ac eiddo cyfagos, sydd wedi’i ddynodi’n anniogel ac yn aros i gael ei ddymchwel,” meddai datganiad ar y cyd gan y ddau.

“Er bod mesurau cychwynnol wedi’u rhoi ar waith i liniaru’r effaith ar fusnesau lleol, megis trefniadau rheoli traffig amgen, erbyn hyn mae ymdeimlad amlwg o rwystredigaeth o fewn y gymuned leol bod y cynnydd o ran adfer y sefyllfa wedi arafu.

“Bu galwadau parhaus am amserlen gadarn i waith ddechrau ar ddymchwel yr adeilad yr effeithiwyd arno fel y gellir paratoi i ailagor y stryd fawr cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib fel y gall masnachwyr ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd”.

Masnachwyr angen “sicrwydd”

Mae Hywel Williams a Siân Gwenllian yn awyddus i weld masnachwyr ar stryd fawr Bangor yn cael “sicrwydd ac arwydd bod pethau’n symud yn eu blaen”.

“Mae ein masnachwyr lleol yn gweithio’n galed iawn i gadw eu siopau i fynd,” meddai’r datganiad.

“Mae sefyllfa Covid-19 wedi rhoi pwysau ychwanegol di-angen ar fanwerthwyr.

“Yr hyn sydd ei angen arnynt yw rhywfaint o sicrwydd ac arwydd bod pethau’n symud yn eu blaen”.

Tra bod Maer Bangor, y Cynghorydd John Wyn Williams wedi ategu’r hyn oedd gan y ddau i’w ddweud.

“Mae busnesau’r stryd fawr yn mynd trwy gyfnod eithriadol o heriol ar hyn o bryd, ac mae angen sicrwydd arnynt pa gynnydd sy’n cael ei wneud gyda’r gwaith dymchwel,” meddai.

“Rwy’n gobeithio y gallwn gael rhywfaint o eglurder fel y gall busnesau lleol a phobl Bangor fod yn dawel eu meddwl bod pethau’n symud ymlaen”.