Yn dilyn penwythnos braf, mae rhai wedi mynegi eu pryderon am y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr oedd wedi ymgynnull yn Aberystwyth.

Gyda’r cyfyngiadau teithio yn llacio yng Nghymru ynghyd â’r tywydd braf a fu dros y penwythnos, nid yw’n syndod fod tref glan y mor fel Aberystwyth wedi gweld cynnydd yn yr ymwelwyr a ddaeth i fwynhau eu rhyddid.

Ond er gwaetha’r cyfyngiadau dau fetr sydd yn parhau mewn grym, a’r cais gan y Llywodraeth i ymwelwyr fod yn barchus wrth deithio o amgylch Cymru, roedd un Cynghorydd Tref a Sir yng Ngheredigion wedi cael siom yn y diffyg parch a ddangoswyd dros y penwythnos.

Ddydd Sul, Gorffennaf 12, rhannodd Mark Strong sydd yn Gynghorydd Ward y Gogledd yn nhref Aberystwyth ac yn Gynghorydd Sir lun ar ei gyfri Twitter o dwr o feicwyr wedi parcio ac ymgynnull ar bromenâd y dref.

“Peidiwch a fy nghamddeall i,” meddai Mark Strong, “rydw i’n croesawu ymwelwyr i Aberystwyth, ond mae’n rhaid i bobl fod yn barchus.”

Yn ôl y Cynghorydd, doedd yn bendant ddim dwy fetr rhwng y beicwyr ac mi roedden nhw’n ddigon hapus i dynnu eu helmedau a chael sgwrs “a hynny rhyw 50cm oddi wrth ei gilydd”.

Mae’n cydnabod fod y promenâd yn llawn o gymysgedd o bobl, o feicwyr, i ymwelwyr a phobl leol.

“Ond fydden i’n dweud fod tua 40% o’r bobl yna’n feicwyr. Es i adref yn syth.”

Pryder

Yn ôl Mark Strong, roedd wedi cysylltu gyda Llinell Argyfwng Ceredigion ddydd Sadwrn gan ei fod wedi gweld bryd hynny fod pethau’n prysuro’n sylweddol yn y dref, ac o weld rhagolygon y tywydd roedd yn paratoi am fwy eto ddydd Sul.

Roedd nifer o drigolion Aberystwyth wedi cysylltu ag ef dros y penwythnos, meddai, gyda gofidiau, lluniau, straeon am agwedd amharchus tuag at eiddo a phellter cymdeithasol, a “beicwyr yn parcio ble y mynnon nhw”.

“Rydw i’n ymddiried yn y bobl yma sydd wedi siarad â mi” meddai, “dydyn nhw ddim yn bobl fyddai’n dweud celwydd.

“Dyw’r ffaith fod tref yn dibynnu ar ymwelwr ddim yn golygu fod pobl yn cael dod yma a thaflu eu pwysau a mynnu cael eu trin fel brenhinoedd.”