Gyda nifer o dafarndai drwy’r wlad yn ailagor heddiw ar gyfer croesawu cwsmeriaid i fannau awyr agored, mae sawl tafarn yn parhau i orfod addasu eu gwasanaethau ac ailagor yn raddol.

Er codi’r cyfyngiadau heddiw, sydd yn galluogi tafarndai i ailagor os oes posib darparu ardal allanol i gwsmeriaid, ni fydd y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn, ger Aberystwyth, yn ailagor tan ddydd Mercher, Gorffennaf 15, a hynny oherwydd lefelau staffio.

Mae’r dafarn wedi bod yn darparu gwasanaeth cludfwyd drwy gydol y cyfnod clo ac mae’r perchennog, Caitlin Morse, yn dweud bod y gwasanaeth hwnnw wedi bod yn llwyddiant.

“Dim ond dau ohonon ni sydd, rydyn ni wedi rhoi’r staff i gyd ar ffyrlo, ac oherwydd cynllun y gegin dydyn ni methu cael staff cegin,” meddai.

“Allan nhw ddim cadw dwy fedr ar wahân ac alla i ddim eu rhoi nhw mewn fisor neu mi fyddan nhw wedi toddi!”

Addasu

Mae’n nhw wedi penderfynu torri’r oriau agor i bum diwrnod yr wythnos yn lle saith gan mai dim ond dau aelod o staff fydd yno.

“Rydyn ni wedi ymestyn y gwasanaeth cludfwyd i bum diwrnod nawr, ac mi fyddwn ni’n agor yr ardd gwrw fel bod pobl yn gallu bwyta eu bwyd allan yn yr ardd gyda’u peint.”

Mae’n nhw wedi penderfynu defnyddio’r cyfnod yma fel cyfnod i ddod yn ôl yn raddol cyn y byddan nhw’n cael agor ar gyfer cwsmeriaid y tu mewn i’r dafarn mewn tair wythnos.

“Mae’n rhaid i ni wneud pethau’n raddol” meddai Caitlin, “does dim pwynt dod a’r holl staff yn ôl ac yna ei bod hi’n dechrau bwrw glaw!

“Hefyd, os yw pethau am fynd fel y gwnaeth hi yn nhafarndai Lloegr, pwy sydd i ddweud na fyddan nhw’n ein cau ni lawr eto?”

Gofalus ac yn raddol

Pan ofynnwyd i Caitlin os oedd hi’n gyffyrddus agor yr wythnos hon, cyfaddefodd ei bod hi “ar y ffens”, gan eu bod nhw fel tafarn a busnes, yn ariannol, angen agor.

“Rydw i’n ymwybodol iawn fod yr achosion wedi bod yn isel iawn yma” meddai Caitlin, “a rydw i am iddi barhau felly.

“Mae gennym ni gymuned hyfryd a diogel yma, a fy mlaenoriaeth i ydi edrych ar ôl fy nheulu, ein staff, a’n cymuned ni, felly rydyn ni’n dod mewn i hyn yn cadw at y rheolau’n llym.

“Dwy fedr fydd dwy fedr, ac hanner y byrddau fydd yma. Rydw i wedi bod yn edrych ar y tafarndai yn Lloegr a meddwl eu bod nhw wir yn gwthio’r ffiniau.

“Rydw i’n meddwl y byd o fy staff i a dydw i ddim eisiau iddyn nhw ddod mewn i’r gwaith yn ofnus, ac felly rydyn ni am ddod mewn i hyn yn ofalus iawn a chymryd popeth o ddifrif.”