Mae’r elusen Crimestoppers yn cynnig gwobr o £10,000 am wybodaeth ynglyn â llofruddiaeth dyn ei gartref ym Mhont Wen, Wrecsam.

Cafodd Terence Edwards, oedd yn 60 oed, ei ddarganfod yn farw yn ei gartref ar 1 Mehefin 2020.

Bu farw yn sgil anaf i’w ben yn ôl post-mortem.

A nawr mae Crimestoppers yn cynnig gwobr o £10,000 am wybodaeth sy’n arwain at euogfarn y person neu’r bobol sy’n gyfrifol.

Mae’r elusen yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar wefan Crimestoppers-uk.org neu drwy ffonio 0800 555 111.

“Rydym yn apelio i’r rheini sydd ag unrhyw wybodaeth i siarad gydag ein helusen yn 100% anhysbys,” meddai Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Orllewin yr elusen Crimestoppers, Gary Murray.

“Gallai unrhyw un wnaeth ymweld â 39 Pont Wen rhwng 9 yr hwyr ddydd Gwener (Mai 29) a 7 yr hwyr ddydd Llun (Mehefin 1) fod â gwybodaeth hanfodol.

“Os ydych chi’n gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth hon, neu gydag unrhyw wybodaeth, dim ots pa mor fychan, os gwelwch yn dda wnewch chi ddweud wrth Crimestoppers.

“Dyma eich cyfle i wneud y peth iawn”.