Mae tri chriw o ymladdwyr tân wedi cau rhan o Stryd Fawr, Bangor, wedi iddyn nhw gael eu galw ben bore heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 17).

Maen nhw’n gweithio mewn adeilad i’r gogledd o’r eglwys gadeiriol, nepell o’r troad i fyny Lôn Popty.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod disgwyl i’r ffordd fod ar gau nes bydd y gwasanaethau tân ac achub wedi cael gwneud eu gwaith.