Aelod Seneddol y Ceidwadwyr tros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro sy’n olynu Alun Cairns yn Ysgrifennydd Cymru.

Mae wedi’i benodi gan Boris Johnson yn dilyn etholiad cyffredinol Rhagfyr 12.

Fe gafodd Simon Hart ei ethol i San Steffan yn 2010.

David Davies, AS Mynwy, yw’r dirprwy weinidog newydd yn Swyddfa Cymru.