Mae dyn 24 oed yn y ddalfa wedi digwyddiad difrifol yn nhref Y Barri neithiwr (nos Lun, Rhagfyr 16).
Mae wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Holton tua 4yp ddor.
Rai oriau’n ddiweddarach, daeth cadarnhad fod dyn 23 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad difrifol.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad llofruddiaeth.