Mae ysgol gynradd yn Ninbych wedi cau ei drysau heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 16) er mwyn atal salwch stumog rhag lledu.
Mewn neges ar wefan Ysgol Trefnant, dywedodd y pennaeth Susan Van Loock bod yr ysgol ynghau heddiw er mwyn i’r safle gael ei “lanhau’n drylwyr” ar ôl i nifer o blant ac athrawon gael eu taro’n wael.
Fe fydd yr ysgol yn ail-agor ddydd Mawrth, Rhagfyr 17.
Ond maen nhw’n cynghori rhieni i gadw eu plant draw o’r ysgol os ydyn nhw wedi cael y salwch ac i beidio dychwelyd am o leiaf 48 awr ers iddyn nhw gael y symptomau olaf.