Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am eu cynlluniau i gau strydoedd trefi’r sir.

Dywed y Cyngor Sir fod rhaid gwneud addasiadau yn sgil cyfyngiadau diweddara’r coronafeirws ac i sicrhau y gall pobol siopa’n ddiogel.

Bydd strydoedd yn cael eu cau a pharcio ar strydoedd yn cael ei ddileu rhwng 11yb a 6yh o yfory (dydd Llun, Gorffennaf 13), pan fydd modd i fusnesau dderbyn nwyddau gan faniau swyddogol a lorïau bach.

Fydd dim modd gyrru ar gyflymdra uwch na phum milltir yr awr, a bydd rhaid defnyddio goleuadau peryl ar bob adeg, yn debyg i’r trefniadau arferol yn Sioe Llanelwedd.

Mae’r Cyngor yn gofyn i fusnesau geisio derbyn nwyddau y tu allan i oriau agor cyhyd â phosib, gan bwysleisio na fydd cerbydau sy’n dosbarthu nwyddau’n gallu parcio am gyfnod hirach na’r hyn sydd wedi cael ei nodi, a hynny fel bod digon o le i bobol gerdded ar y strydoedd.

Bydd eithriadau i’r gwaharddiad ar gerbydau modur yn y parthau hyn yn cynnwys y gwasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau ond dim ond ar gyfer gwaith diogelwch/mewn argyfwng.

Mae meysydd parcio ar gael o amgylch y trefi a fydd ar gael i’w defnyddio am ddim. Bydd darpariaeth parcio ychwanegol i’r anabl (bathodyn glas) yn cael ei nodi ar y cynlluniau.

Dywed y Cyngor y bydd y trefniadau’n cael eu hadolygu’n barhaus ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi ar waith.

Mae’r cynlluniau’n berthnasol i drefi Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd, ac mae modd eu gweld yn llawn drwy fynd i www.ceredigion.gov.uk/ParthauDiogel.

Dyma drefniadau cau’r strydoedd yn llawn fesul tref:

Aberystwyth

  • Ar gyffordd Stryd Portland a Heol y Frenhines, gan adael ymlaen i Porth Bach, y Stryd Newydd tuag at Eglwys Sant Mihangel i Faes Lowri, yna i’r promenâd;
  • Ar gyffordd Ffordd y Môr a Lôn Cambria i fyny at Y Ffynnon Haearn; bydd disgwyl i’r faniau droi’n ôl at Ffordd y Môr;
  • Bydd cerbydau mwy (dros 7.5T) yn mynd drwy Stryd y Bont, i lawr y Stryd Fawr ac yn ymadael drwy Rhodfa’r Gogledd.

Gwnaed newidiadau hefyd i gyfyngiadau i ganiatáu mynediad gwell i Neuadd Farchnad Aberystwyth.

Aberteifi

  • Ar waelod y Stryd Fawr, yn agos at fynedfa’r Castell. Mae’r man gadael ymhellach ar hyd y Stryd Fawr.

Ceinewydd (sy’n cynnwys mynediad i gychod ar drelar)

  • Ar gyffordd y B4342 a Rhes Glanmor ac yna cymerwch y llwybr cylchol i adael.