Mae Prifysgol Abertawe wedi’i henwebu mewn wyth categori ar gyfer gwobrau addysg Heist.
Mae’r gwobrau’n dathlu rhagoriaeth ym maes marchnata addysg.
Roedd disgwyl i seremoni gael ei chynnal ym Manceinion i nodi 30 mlynedd ers sefydlu’r gwobrau, ond dywedodd y trefnwyr yr wythnos hon eu bod nhw’n paratoi ar gyfer digwyddiad rhithwir yn sgil y coronafeirws.
Yr enwebiadau
Mae Abertawe wedi’i chydnabod am nifer o feysydd gwahanol, o ymgyrchoedd recriwtio myfyrwyr i brosiectau a dulliau marchnata digidol.
Dyma’r enwebiadau’n llawn:
- Yr ymgyrch orau i recriwtio myfyrwyr
- y defnydd gorau o gynnwys cymdeithasol neu ddigidol ar gyfer ymgyrch Archwilio Problemau Byd-eang
- y brand gorau / enw da ar gyfer Archwilio Problemau Byd-eang
- y defnydd gorau o ddata a mewnwelediadau ar gyfer Personas Prifysgol Abertawe
- y prosbectws is-raddedigion gorau
- y wefan orau
- yr ymgyrch neu fenter orau ym maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu (ymgyrch Ein Graddedigion 2019)
- Tîm Marchnata Gorau’r Flwyddyn