Cafodd dyn 26 oed oedd yn teithio mewn car ei drywanu yn dilyn ffrae ger yr M5 yn ardal Weston-super-Mare neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 10).
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl yn dilyn y digwyddiad ger goleuadau traffig am oddeutu toc ar ôl 10 o’r gloch.
Yn ôl yr heddlu, roedd y ddau gerbyd yng nghanol y ffrae newydd adael y draffordd.
Roedd y troseddwr honedig mewn car lliw tywyll, ac mae’r heddlu’n ceisio dod o hyd i’r unigolyn a’r cerbyd.
Mae’r heddlu’n annog tystion i gysylltu â nhw.
Diweddariad: Mae dyn 42 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o glwyfo bwriadol.