Fe fydd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn ymweld ag un o fusnesau Bro Morgannwg heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 11), wrth i’r diwydiant twristiaeth a gwyliau baratoi i groesawu ymwelwyr unwaith eto.
Dyma’r tro cyntaf i’r sector fod yn agored i ymwelwyr ers dechrau ymlediad y coronafeirws ym mis Mawrth.
Fe fydd y prif weinidog yn ymweld â The Hide yn Llanddunwyd er mwyn gweld sut fydd llety hunanarlwyo yn cael ei ddarparu yn dilyn y llacio diweddaraf ar gyfyngiadau’r coronafeirws dros y tair wythnos nesaf.
O ddydd Llun (Gorffennaf 13), bydd modd i dafarnau, bariau a bwytai agor yn yr awyr agored unwaith eto, a bydd nifer sylweddol o atyniadau dan do hefyd yn cael agor.
Gall llety gwyliau sy’n ddibynnol ar rannu cyfleusterau â phobol o aelwyd ar wahân agor eto o Orffennaf 25.
Mae disgwyl i’r diwydiant lletygarwch agor ei ddrysau o Awst 3, yn ddibynnol ar sefyllfa’r feirws erbyn hynny.
Croeso Cymru
Mae corff Croeso Cymru wedi cyflwyno addewid i annog pobol sy’n ymweld â Chymru i ofalu am ei gilydd, y tir a’r cymunedau.
Mae modd llofnodi’r addewid drwy fynd i wefan Croeso Cymru.
Mae ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer eu hymweliad cyn bwcio llety yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobol os ydyn nhw’n cael eu taro’n wael yn ystod eu hymweliad.
Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys cyngor i fusnesau ar sut i helpu’r Gwasanaeth Iechyd drwy gyfrannu at y gwasanaeth profi ac olrhain.
Fe fydd rhaid bod unrhyw fusnesau sy’n agor eto fod wedi dangos iddyn nhw ddilyn canllawiau’r Llywodraeth a Iechyd Cyhoeddus Cymru a’u bod nhw wedi cwblhau asesiad risg coronafeirws.
Ymateb Mark Drakeford
“Mae’r argyfwng wedi cael effaith fawr ar yr economi ymwelwyr – mewn cyfnod pan ddylai ein busnesau fod wedi mynd drwy Basg prysur, roedden nhw yn gwrthod gwesteion,” meddai Mark Draeford, prif weinidog Cymru.
“Rydym bellach yn ailagor twristiaeth yng Nghymru yn ofalus fesul cam, fydd yn rhoi yr hyder i fusnesau, staff, ymwelwyr a chymunedau i ailagor yn llwyddiannus.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Gymru ac i weld pobol o Gymru yn ymweld unwaith eto â’u hoff leoedd a chanfod rhai newydd.
“Dros yr haf, rydym am i bobol ymweld â Chymru yn ddiogel – drwy edrych ar ôl eu hiechyd; gwarchod y wlad brydferth hon a pheidio â gadael unrhyw ôl; gofalu am gefn gwlad drwy gadw at y llwybrau a gadael y gatiau fel yr oeddent a chadw cŵn ar dennyn.
“Gadewch i ni groesawu agor safleoedd agored Cymru ac osgoi ardaloedd prysur pryd bynnag y gallwn.
“Gallwn fwynhau’r gorau o Gymru drwy ddewis busnesau lleol a phrynu cynnyrch o Gymru, gan wneud gwahaniaeth i economïau lleol a phrofi diwylliant a iaith Cymru a pharchu cymunedau sydd eisoes yn barod i’n croesawu yn ôl.”