Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynegi pryder am ddyfodol papurau newydd lleol yn dilyn cyhoeddiad Media Wales fod hyd at 70 o swyddi’r cwmni yn y fantol.
Mae Media Wales yn gyfrifol am y Western Mail, y South Wales Echo a gwefan WalesOnline, a gallai dros hanner swyddi’r cwmni ddiflannu yn sgil cynlluniau i gyfuno gwasanaethau â nifer o bapurau lleol Seisnig y cwmni yng nghanolbarth Lloegr.
Ymhlith y swyddi sydd yn y fantol, yn ôl adroddiadau, mae’r prif olygydd.
Craffu
Yn ôl y Cynghorydd Rodney Berman, byddai torri’r swyddi’n lleihau faint o graffu mae’r wasg yn ei wneud ar y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru.
“Mae hyn yn rywbeth dw i’n credu sy’n hanfodol ar gyfer democratiaeth effeithiol ac mae angen ei warchod,” meddai.
“Fe fu cynifer o doriadau eisoes yn niferoedd staff sy’n gweithio i gyhoeddiadau fel y Western Mail a’r South Wales Echo dros y blynyddoedd diwethaf fel ei bod hi’n anodd gweld sut y byddan nhw hyd yn oed yn parhau i weithredu os yw nifer sylweddol o newyddiadurwr yn colli eu swyddi nawr.
“Rydym yn deall fod pob papur newydd wedi colli refeniw o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, ond does bosib y gallwn ni sefyll yn ôl a gadael i swyddi gael eu colli fel hyn, neu fydd dim gwasg leol ar ôl gyda ni yng Nghymru.
“Rhaid i lywodraethau Prydain a Chymru, ill dwy, gamu i mewn i ddarparu cefnogaeth a’u hatal rhag dymchwel yn llwyr.”
‘Rhan allweddol o’r gymdeithas’
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae newyddiadurwyr a chyhoeddiadau lleol yn rhan allweddol o’r gymdeithas.
“Maen nhw’n hanfodol wrth gysylltu cymunedau, hysbysu pobol am ddigwyddiadau lleol a chraffu’n effeithiol ar wleidyddion,” meddai.
“Yn drist iawn, mae’r toriadau hyn yn bygwth dinistrio’r diwydiant cyfryngau Cymreig, sydd eisoes yn fregus, am byth.
“Mae angen pecyn cymorth wedi’i dargedu, gyda’r nod o gefnogi’r diwydiannau hyn yn ystod y cyfnodau anodd hyn.
“Mae hefyd angen i ni eu helpu nhw i addasu ac amrywio’u cynnwys, yn enwedig wrth ehangu eu presenoldeb ar-lein.
“Mae mynediad i gymaint o’n cyfryngau ar-lein fel bod angen i’n sefydliadau yn y cyfryngau adlewyrchu hynny.”