Mae India wedi cloi sawl talaith yn rhannol yn dilyn y cynnydd dyddiol mwyaf o 27,114 o achosion o’r coronafeirws dros y 24 awr diwethaf.

Mae 820,916 o achosion bellach wedi’u cofnodi yn y wlad ers dechrau’r ymlediad, gyda 519 o farwolaeth newydd yn mynd â’r cyfanswm i 22,123.

Fe wnaeth y ffigwr godi o 600,000 i dros 800,000 mewn naw diwrnod, ond mae mwy na 62% o bobol wedi gwella ar ôl cael eu heintio.

Mae bron i 90% o holl achosion y wlad mewn wyth talaith.