Mae un o Saeson tîm pêl-droed Abertawe wedi canmol agosatrwydd y gymuned bêl-droed a’r ddinas, gan ddweud ei fod e eisiau diolch iddyn nhw drwy gyrraedd y gemau ail gyfle.

Mae’r Elyrch yn croesawu Leeds, sydd ar frig y Bencampwriaeth, i Stadiwm Liberty brynhawn yfory (dydd Sul, Gorffennaf 12), gan lygadu lle yn y gemau ail gyfle.

Maen nhw’n seithfed ar hyn o bryd, un safle a phwynt yn unig islaw’r chweched safle hollbwysig gyda phedair gêm yn weddill o’r tymor estynedig.

Ymunodd Jake Bidwell â’r garfan haf diwethaf ar ôl gadael QPR ond ar ôl chwarae yn Llundain a Lerpwl yn y gorffennol, mae’n dweud bod yr awyrgylch yng Nghymru’n gwbl wahanol i’r dinasoedd mawr.

“Dw i wedi sylwi gwahaniaeth o fod yn Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

“Dydy e ddim yr un fath â chwarae i glwb yn Llundain.

“Lle bynnag dw i’n mynd yn y ddinas hon, mae pobol yn cefnogi’r Elyrch.

“Dyna’r unig dîm yma, felly mae pawb eisiau i chi wneud yn dda a dw i’n cael fy stopio wrth fynd â’r ci am dro gan fod pobol eisiau siarad a dymuno’n dda i chi.

“Does dim ymdeimlad o gymuned gyda chi yn Llundain, wir. Dydy e ddim yr un fath.”

Mwynhau ei bêl-droed

Mae Jake Bidwell yr un mor frwdfrydig am y gêm ar y cae o dan reolaeth Steve Cooper.

“Dw i wir wedi mwynhau wrth i’r tymor fynd yn ei flaen,” meddai.

“Dw i wedi dygymod â’r garfan newydd a’r rheolwr newydd a dw i wir wedi amgyffred y peth.

“Gyda phedair gêm yn weddill, mae hi yn ein dwylo ni ein hunain o ran y gemau ail gyfle ac mae unrhyw beth yn bosib.

“Byddai’n dymor cyntaf gwych yn rheoli pêl-droed oedolion pe bai Steve Cooper yn gallu arwain tîm i’r gemau ail gyfle.”