Cafodd e ddiagnosis o lymffoma y llynedd, ac fe fu’n byw â dementia.
Gyrfa
Yn amddiffynnwr canol ac yn frawd i Bobby Charlton, treuliodd Jack Charlton ei yrfa gyfan yn chwarae i Leeds.
Chwaraeodd yn ei gêm gyntaf yn yr hen Ail Adran yn 1953, gan fynd yn ei flaen i fod yn aelod allweddol o garfan Don Revie.
Enillodd e’r gynghrair yn 1968-69, Cwpan FA Lloegr yn 1972, Cwpan y Gynghrair yn 1968 a Chwpan UEFA yn 1968 a 1971.
Daeth yr uchafbwynt pan enillodd e Gwpan y Byd gyda Lloegr yn 1966, ochr yn ochr â’i frawd.
Daeth ei gap rhyngwladol cyntaf flwyddyn cyn hynny, ac yntau’n 29 oed.
Daeth ei gap olaf yng Nghwpan y Byd 1970.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Cymdeithas yr Awduron Pêl-droed yn 1967.
Fe wnaeth e ymddeol fel chwaraewr yn 1973 ar ôl rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Sunderland, ac fe dderbyniodd e’r OBE y flwyddyn ganlynol am ei wasanaeth i’r byd pêl-droed.
Enillodd Middlesbrough ddyrchafiad o dan ei reolaeth yn 1974, ac fe ddaeth o fewn trwch blewyn i ddyrchafiad gyda Sheffield Wednesday, oedd wedi codi o waelod y Drydedd Adran.
Treuliodd e un tymor yn rheoli Newcastle cyn ymddiswyddo, a chafodd ei benodi rai misoedd yn ddiweddarach yn rheolwr tîm Gweriniaeth Iwerddon, y dyn cyntaf o’r tu allan i’r wlad i gael ei benodi i’r swydd.
Cyrhaeddon nhw’r Ewros yn 1988 a rownd wyth olaf Chwpan y Byd 1990.
Ar ôl Cwpan y Byd 1994, cafodd ei anrhydeddu â Rhyddid Dinas Dulyn, gan ennill dinasyddiaeth lawn yn 1996.
Teyrnged y teulu
Mewn datganiad, dywed teulu Jack Charlton iddo farw’n dawel yn ei gartref yn Northumberland ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 10), a bod ei deulu wrth ei ochr.
“Yn ogystal â bod yn ffrind i nifer, roedd e’n ŵr, tad, tad-cu a hen dad-cu oedd yn cael ei garu,” meddai’r teulu.
“Allwn ni ddim mynegi pa mor falch ydyn ni o’r bywyd eithriadol gafodd e a’r pleser roddodd e i gynifer o bobol mewn gwledydd amrywiol ac ym mhob agwedd ar fywyd.
“Roedd e’n ddyn gonest dros ben, yn ddoniol ac yn ddiffuant, oedd bob amser â digon o amser i bobol.
“Bydd ei golled yn gadael bwlch enfawr yn ein bywydau ni i gyd, ond rydym yn ddiolchgar am oes o atgofion hapus.”