“Cynnal a chadw, nid caffael, yw’r nod eleni” i glybiau criced ar lawr gwlad, yn ôl prif weithredwr Criced Cymru.

Wrth siarad â golwg360 cyn y cyhoeddiad y gall criced ddychwelyd ar lawr gwlad yng Nghymru o ddydd Llun (Gorffennaf 13), bu Leshia Hawkins yn canmol Llywodraeth Cymru am y modd maen nhw wedi bod yn cydweithio â’r corff sy’n rheoli’r gêm yng Nghymru.

Daeth cadarnhad eisoes y byddai modd i glybiau yn Lloegr chwarae o yfory (dydd Sadwrn, Gorffennaf 10), a’r gred yw y bydd nifer o glybiau yng Nghymru’n croesi’r ffin dros y penwythnos i gael eu blas cyntaf ar y gêm eleni.

Bydd gemau criced ar lefel broffesiynol yn dychwelyd o Awst 1 yn dychwelyd O Awst 1.

Ond bydd gemau’n gallu cael eu cynnal yma hefyd yr wythnos nesaf yn dilyn y llacio diweddaraf ar gyfyngiadau’r coronafeirws gan y prif weinidog Mark Drakeford.

“Yn amlwg, rydyn ni, yn yr un modd â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn credu bod griced yn gamp lle mae modd cadw pellter cymdeithasol yn naturiol, a bod modd addasu rhywfaint ar y gêm i’w gwneud hi’n gwbl ddiogel yn wyneb Covid,” meddai Leshia Hawkins wrth golwg360 cyn y cyhoeddiad heddiw.

“Mae tipyn o sôn wedi bod am beidio â defnyddio ystafelloedd newid, cyfleusterau te a’r math yna o beth, ond mae chwarae’r gêm yn eithaf hawdd, gan gadw dwy fetr ar wahân.”

Croesi’r ffin

Tra bod Criced Cymru’n croesawu penderfyniad y clybiau unigol i fynd i Loegr dros y penwythnos, maen nhw’n pwyso ar y clybiau i ddilyn rheolau Llywodraeth Cymru tra eu bod nhw yn y wlad ac wrth ddod adref.

“Dw i’n ymwybodol y bydd nifer o glybiau’n ceisio trefnu gemau cyfeillgar ddydd Sadwrn,” meddai wedyn.

“Ar ddiwedd y dydd, mae hawl gyda chi i groesi’r ffin ddydd Sadwrn ac fe fydd criced yn weithgaredd gyfreithlon yn Lloegr ddydd Sadwrn, felly mae gan bobol yr hawl i wneud hynny.

“Dw i’n poeni ychydig fod pobol yn rhuthro i drefnu gemau cyn i’r canllawiau gael eu cyhoeddi ond mae hynny’n fater i’r clybiau yn Lloegr sy’n cynnal y gemau.

“Rydyn ni’n cyfathrebu â chynghreiriau yn Swydd Gaerloyw, Sir Amwythig a Lerpwl er mwyn sicrhau cymaint o griced â phosib ar gyfer oedolion a phlant, a byddwn ni’n sicrhau bod modd gwneud hynny mewn modd priodol.”

Rhwystredigaeth clybiau

Mae nifer o glybiau, gan gynnwys Clwb Criced Trecelyn, wedi bod yn mynegi pryder am ddiffyg criced ar lawr gwlad dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf.

Dywed Leshia Hawkins ei bod hi’n “deall rhwystredigaeth pobol a chlybiau” yn sgil absenoldeb criced, ond fod rhwystredigaeth bob dydd wedi dod yn rhan o fywyd yn ystod ymlediad y coronafeirws.

“Mae’n rywbeth sy’n rhan o’r natur ddynol,” meddai.

“Dw i’n deall fod pobol eisiau eu rhyddid yn ôl yn eu bywydau arferol.

“Dw i’n credu bod y clybiau a’r chwaraewyr wedi bod yn amyneddgar iawn ac wedi ymddwyn yn dda iawn, ac wedi dilyn a pharchu’r gyfraith, ac mae hynny’n reddfol i gricedwyr.

“Tra ’mod i’n gwerthfawrogi na chafodd pobol wneud llawer o bethau roedden nhw am eu gwneud, y darlun mawr yw ein bod ni yng nghanol pandemig byd-eang ac mae’n rhywbeth na welwyd o’r blaen.

“Gallwch chi synhwyro’r rhwystredigaeth ar Twitter o ran y broses, ond rhaid i fi fod yn onest, o fyw a bod trwy’r sefyllfa saith diwrnod yr wythnos ers misoedd, mae’r broses o ran gweinyddu criced, o safbwynt Llywodraeth Cymru, wedi bod yn rhagorol.

“Rydyn ni wedi cydweithio mewn modd positif, cydweithredol a phwyllog mewn partneriaeth go iawn ac felly, tra ’mod i’n gwerthfawrogi fod pobol eisiau chwarae, mae’r broses yn fy marn i wedi bod yn wych.”

Cydweithio â dwy lywodraeth

Yn wahanol i’r arfer, lle mae criced yn cael ei gweinyddu fel gêm drawsffiniol yng Nghymru a Lloegr, mae criced yng Nghymru’n dilyn cyngor Llywodraeth Cymru yn unig ar hyn o bryd.

Yn ôl Leshia Hawkins, mae’r ffaith fod criced wedi dychwelyd yn Lloegr cyn Cymru’n fantais wrth adolygu’r sefyllfa a thynnu ar yr hyn sydd wedi cael ei drefnu y tu draw i Glawdd Offa.

“Dydyn ni ddim yn bell iawn ar eu holau nhw ac mewn nifer o ffyrdd, fe fu’n ddefnyddiol cael gweld clybiau Lloegr yn mynd drwy’r broses o ailagor rhwydi ymarfer, ac i ddysgu o’r heriau a’r cwestiynau gafodd eu codi yn ystod yr wythnosau cyntaf pan gafodd cyfleusterau awyr agored eu hagor.

“Fe wnaethon ni gyhoeddi canllawiau o fewn dwy awr, dw i’n meddwl, er mwyn agor y rhwydi, ond fe gymerodd hynny ryw bedwar neu bump o ddiwrnodau yn Lloegr ar ôl ei ganiatáu.

“Mae wedi bod yn ddiddorol, ond dw i ddim yn credu ei fod e wedi amharu arnon ni’n ormodol, ac fe wna i ategu bod cydweithio â Llywodraeth Cymru trwy Chwaraeon Cymru a’r awdurdodau wedi bod yn brofiad rhagorol.

“Dw i’n gwerthfawrogi bod pobol yn teimlo bod y broses yn un araf, ond mae’r broses a’r manion, i fi, wedi bod yn wych.”

Gobaith ar gyfer y dyfodol

Mae sôn yn gyson yng Nghymru am y gystadleuaeth rhwng y campau amrywiol, yn enwedig rhwng rygbi a phêl-droed, a’r gorgyffwrdd rhwng y tymhorau.

Erbyn i griced ddechrau eto, fe fydd pêl-droed ar lefel broffesiynol wedi bod ar y gweill ers cryn amser ac fe fydd yn dechrau dychwelyd ar lawr gwlad hefyd.

Gyda champau cyswllt heb ddychwelyd yn llawn eto, fydd dim cystadleuaeth rhwng criced, pêl-droed a rygbi am y tro, ond fe fydd hynny’n digwydd rywbryd yn y dyfodol agos, yn enwedig wrth agosáu at fis Medi.

Yn ôl Leshia Hawkins, mae criced yn ffodus nad yw’n gamp gyswllt.

“Pe baen ni’n gamp gyswllt, dan do neu’n un o’r campau ymladd, byddwn i’n poeni dipyn mwy [am y dyfodol],” meddai.

“Dw i’n gwybod fod sgyrsiau du iawn wedi digwydd yn y campau hynny lle mae’n amlwg na fyddan nhw’n dychwelyd ar lawr gwlad am rai misoedd.

“Dw i’n gwerthfawrogi nad yw canslo hanner y tymor yn ddelfrydol, ond mae llygedyn o obaith i ni.

“Mae’n her i bob camp sydd wedi methu â chael plant yn rhedeg o gwmpas ac yn cwympo mewn cariad â chwaraeon eto, ond mae gyda chi dîm criced Lloegr yn chwarae, bydd Morgannwg yn chwarae eto, felly mae cyfleoedd i blant wylio criced ac os gallwn ni eu cael nhw’n ôl yn chwarae, gobeithio y byddan nhw’n cwympo mewn cariad â’r gêm eto ac yn dweud wrth eu ffrindiau fel bod modd i ni barhau i dyfu.

“Roedd gyda ni gynlluniau mawr i dyfu’r gêm yng Nghymru eleni, ond mae’n fater o gadw a chynnal erbyn hyn yn hytrach na chaffael.”

Mae modd darllen ymateb Criced Cymru i gyhoeddiad Mark Drakeford fan hyn, wrth iddyn nhw ddweud y byddan nhw’n cyhoeddi canllawiau pellach ar gynnal gemau maes o law.