Mae cadeirydd Cynghrair Griced De-ddwyrain Cymru ac ysgrifennydd Clwb Criced Trecelyn wedi dweud wrth golwg360 fod y diffyg eglurder ynghylch criced ar lawr gwlad yng Nghymru ar hyn o bryd yn “bryder gwirioneddol” ac yn “rhwystredigaeth go iawn”.

Daeth cadarnhad ddoe (dydd Llun, Mehefin 29) y bydd criced sirol yn ailddechrau ar Awst 1.

Ond wrth ateb neges Jonathan Wellington ar Twitter, mae Llywodraeth Cymru yn dweud “am y tro, dydy campau tîm na chynulliad o bobol o fwy na dau gartref ddim wedi’u caniatáu”.

Serch hynny, gall unigolion wneud defnydd o gyfleusterau ymarfer y clybiau os ydyn nhw’n cadw at y cyfyngiadau pellter cymdeithasol.

Heb sicrwydd y bydd unrhyw griced yn bosib yng nghynghreiriau Cymru y tymor hwn, dywed Jonathan Wellington ei fod yn gofidio am ddyfodol clybiau ledled y wlad, gan gynnwys ei glwb ei hun.

“Dw i’n credu mai’r realiti yw mai ein prif rwystredigaeth ni ym mis Mai a dechrau Mehefin oedd nad oedden ni’n gallu chwarae,” meddai.

“Roedd pawb yn deall pam, sef ein bod ni yng nghanol pandemig, mae chwaraeon yn isel ar y rhestr o flaenoriaethau, rydyn ni’n deall hynny.

“Ond mae gweld nawr, yn enwedig yn Lloegr, fod chwaraeon yn dechrau dychwelyd a’n bod ni’n methu dechrau chwarae criced, a bod oedi rhwng Lloegr a Chymru o ran gallu defnyddio rhwydi, mae’n amlwg ein bod ni ymhell y tu ôl i Loegr yn nhermau faint o bobol sy’n gallu defnyddio’r rhwydi ar hyn o bryd.

“A nawr, mae’n ymddangos bod cyhoeddiad i ddod yn fuan ynghylch cynnal gemau crice yn Lloegr eto.

“Mae rhwystredigaeth go iawn yng Nghymru erbyn hyn, dw i’n meddwl, oherwydd y ffaith na allwn ni fynd allan i chwarae.”

Ymbellháu’n gymdeithasol?

Yn ôl Jonathan Wellington a nifer o bobol eraill sydd wedi bod yn lleisio barn ar y cyfryngau cymdeithasol, byddai’n hawdd cadw at reolau pellter cymdeithasol wrth chwarae criced a nifer o gampau eraill fel golff.

“Mae criced fwy na thebyg yn ail y tu ôl i golff fel y campau lle mae pellter cymdeithasol yn digwydd yn naturiol, a dw i’n credu bod pobol yn ei chael hi’n anodd iawn deall pam na allwn ni chwarae o dan gyfyngiadau llym yn nhermau’r cyfleusterau oddi ar y cae ac yn y blaen,” meddai.

“Ond dw i’n credu y dylid ystyried y gêm ei hun yn risg isel, wrth gwrs fod yna risg ond mae’n un isel.”

Colli arian a chysylltiad gydag aelodau

Pryder arall sydd gan Jonathan Wellington yw fod clybiau fel Trecelyn yn colli arian o fethu ag agor eu cyfleusterau, gan gynnwys bariau a chlybiau cymdeithasol.

“Rydyn ni’n dibynnu ar ffioedd aelodaeth ac elw’r bar i gadw’r clwb i fynd,” meddai.

“Mae’n fudiad nid-er-elw.

“Rydyn ni’n trefnu timau ieuenctid o naw oed hyd at 19 oed ac mae hynny’n ddrud ynddo’i hun yn nhermau’r cit ac mae angen i ni fod yn chwarae er mwyn dod ag incwm i’r clwb i’w gynnal.

“Rydyn ni’n cynhyrchu ein chwaraewyr ein hunain a’r tymor diwethaf roedd gyda ni Gwpan y Byd a’r Lludw ac fe gollon ni’r momentwm wedyn yn nhermau cael pobol allan i chwarae a chynyddu’r diddordeb mewn criced.

“Ry’n ni wedi llwyddo i gadw cysylltiad gyda’r aelodau i raddau helaeth, ond mae’r ieuenctid wedi bod yn fwy anodd.

“O ran yr oedolion, rydyn ni wedi gallu cael partïon gan gadw pellter cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf, sy’n golygu bod y bois wedi gallu gweld ei gilydd a chyfathrebu.

“Ond mae wedi bod yn fwy anodd cadw cysylltiad gyda’r ieuenctid.

“Rydyn ni’n dweud wrthyn nhw o hyd nad ydyn ni wedi anobeithio o ran mynd allan eto, ond mae’n anodd cadw cysylltiad dyddiol, a’r ffordd orau o wneud hynny yw iddyn nhw fynd allan i ymarfer gyda’u ffrindiau yn y rhwydi a chwarae eto.”

Cystadlu gyda champau’r gaeaf

Pryder arall sydd gan Jonathan Wellington yw fod y tymor, o gael ei ohirio tan fis Awst, yn mynd i gyd-daro â dechrau’r tymor rygbi a phêl-droed, ac na all criced gystadlu â’r un o’r ddwy.

“Mae gyda ni haf sydd o fewn cyfyngiadau amser tynn iawn, yn enwedig gan fod y cae ond ar gael am gyfnod penodol rhwng Mai 1 ac Awst 31, a hynny am ein bod ni’n ei rannu â’r clwb rygbi, felly dim ond pedwar mis sydd gyda ni i gynnal gemau yma,” meddai.

“Mae’n bryder go iawn.

“Y broblem gyda chriced yw ein bod ni wedi ein rhwymo o ganol Ebrill i ddiwedd Medi, efallai, os ydyn ni’n lwcus.

“Fy mhryder mwyaf ar hyn o bryd yw, os awn ni haf cyfan heb chwarae criced, galla i weld sefyllfa ofnadwy lle fydd rygbi na phêl-droed ddim yn dechrau’n brydlon chwaith, gan redeg drosodd i mewn i’r tymor criced nesaf.

“Dw i’n meddwl y byddai hynny’n drychinebus i ni ac i glybiau eraill ledled y Deyrnas Unedig, ond yn enwedig yma yn ne Cymru, lle mae cystadleuaeth amlwg gyda rygbi a phêl-droed.

“Mae’r tymhorau pêl-droed a rygbi eisoes yn gor-gyffwrdd â’r tymor criced a galla i weld hynny’n gwaethygu. Mae’n un o’m pryderon mwyaf.

“Ond mae cyfle gwrioneddol gyda ni, ar y llaw arall, nid i gystadlu yn erbyn y campau eraill oherwydd fyddwn i ddim eisiau gorfod gwneud hynny, ond i werthu criced i bobol ifanc a dweud nad oes rhaid chwarae rygbi a phêl-droed drwy gydol yr haf.

“Chwaraewch rygbi a phêl-droed drwy gydol y gaeaf, a dewch i fwynhau’r criced yn yr haf.”