Fe fydd Jordon Garrick yn dechrau gwaharddiad o dair gêm heno (nos Fawrth, Mehefin 30) wrth i Abertawe deithio i Millwall yn y Bencampwriaeth.

Cafodd yr asgellwr ei anfon o’r cae yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Luton yn Stadiwm Liberty am daro gwrthwynebydd yn ei wyneb.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd lle yn y garfan ar gyfer Bersant Celina, ar ôl i’r chwaraewr ymosodol gael ei hepgor ar gyfer y gêm ddiwethaf.

Mae’r Elyrch yn ddegfed yn y tabl, bedwar pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle, un lle ac un pwynt uwchlaw Millwall.

Mae disgwyl i’r Llewod ddewis Ben Thompson a’r capten Alex Pearce i ddechrau’r gêm ar ôl iddyn nhw fod ar y fainc ar gyfer y gêm ddi-sgôr yn erbyn Barnsley.

Mae Pearce newydd wella o anaf i linyn y gâr ac fe ddaeth Thompson i’r cae am gyfnod ar ôl gwella o anaf i gyhyr yn ei goes.