Mae Robert Glatzel, ymosodwr Caerdydd, yn gobeithio dechrau’r gêm yn erbyn Charlton heno (nos Fawrth, Mehefin 30), ar ôl sgorio dwy gôl mewn dwy gêm ers ailddechrau’r Bencampwriaeth.

Mae’n debygol y bydd Neil Harris yn cylchdroi’r garfan ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno yn dilyn buddugoliaethau dros Leeds a Preston.

Mae Josh Murphy yn dal allan ag anaf, ond mae Nathaniel Mendez-Laing a Lee Tomlin wedi perfformio’n gryf oddi ar y fainc ers gwella o anafiadau.

Bydd y Cymro Jonny Williams yn gobeithio dechrau i’r ymwelwyr ar ôl bod yn eilyd yn erbyn QPR, ond heb ddod i’r cae.

Ond mae disgwyl i Darren Pratley, cyn-chwaraewr canol cae Abertawe, gael ei orffwys yn sgil amserlen brysur rhwng nawr a diwedd y tymor.

Mae Caerdydd yn chweched yn y tabl ac yn gwthio am le yn y gemau ail gyfle, tra bod Charlton yn ddeunawfed, driphwynt yn unig uwchlaw safleoedd y gwymp.