Fe fydd y tymor criced sirol yn dechrau ar Awst 1 ar ôl iddo gael ei ohirio yn sgil y coronafeirws.

Dydy hi ddim yn glir eto pa gystadlaethau fydd yn cael eu cynnal, ond byddan nhw’n cael eu cytuno gan y 18 sir yn yr wythnosau nesaf, a’r amserlen newydd yn cael ei chyhoeddi wedyn.

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) hefyd wedi cytuno y bydd modd i dimau merched proffesiynol chwarae rhyw ran yn y tymor.

Mae’r awdurdodau’n parhau i ddilyn cyngor Llywodraeth Prydain ac arbenigwyr meddygol, gyda diogelwch chwaraewyr, staff a swyddogion yn dal yn brif flaenoriaeth.

Fe fydd modd i chwaraewyr ddechrau ymarfer eto erbyn Gorffennaf 1, a byddan nhw’n paratoi ar gyfer pob opsiwn, gan gynnwys criced pêl goch a phêl wen.

Ond mae’n debygol mai criced rhyngwladol a gemau undydd, yn enwedig gemau ugain pelawd, fydd yn cael y flaenoriaeth fel y rhai sy’n denu’r symiau mwyaf o arian i’r gêm.

Mae Morgannwg eisoes wedi cadarnhau na fydd unrhyw un o’u gemau cartref yn cael eu cynnal y tu allan i Gaerdydd yn sgil pryderon diogelwch.

‘Cam sylweddol ymlaen’

“Mae’n gam sylweddol ymlaen ein bod ni’n gallu cymeradwyo dechrau tymor domestig y dynion ar Awst 1, ac mae’n un y bydd yn cael ei groesawu gan bawb sy’n gysylltiedig â chriced sirol,” meddai Tom Harrison, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

“Mae’n dilyn ymgynghoriad sylweddol rhwng y 18 sir dosbarth cyntaf, Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) a’r ECB, a dim ond oherwydd y gwaith caled sylweddol sy’n parhau wrth i ni baratoi ar gyfer tymor domestig na welodd y gêm mo’i debyg o’r blaen.

“Rhaid pwysleisio mai diogelwch ein chwaraewyr, staff a swyddogion oedd y brif flaenoriaeth drwy gydol yr holl drafodaethau a bydd arweiniad y llywodraeth yn parhau i siapio’n cynlluniau a’n paratoadau.

“Byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â gêm ddomestig y dynion a’r merched er mwyn sicrhau bod yr holl fesurau diogelwch yn eu lle i warchod lles pawb sydd ynghlwm.”

Mae gêm y merched yn dilyn yr un drefn â chriced ar lawr gwlad, sy’n dal heb gael dychwelyd eto.