Mae Craig Meschede, chwaraewr amryddawn 28 oed Clwb Criced Morgannwg, wedi ymddeol oherwydd anaf i’w ysgwydd.

Dioddefodd e’r anaf am y tro cyntaf y tymor diwethaf, gan gyfyngu ar ei allu i droi ei ysgwydd a gwanhau ei gryfder ac mae e wedi methu â chryfhau’r ysgwydd yn ddigonol.

Daw ei ymddeoliad ar sail cyngor meddygol.

Uchafbwyntiau i Forgannwg

Ymunodd Craig Meschede â Morgannwg ar fenthyg o Wlad yr Haf yn 2015 cyn symud yn barhaol y tymor canlynol.

Tarodd e ddau ganred yn ystod ei yrfa, ac fe gipiodd e bum wiced mewn batiad am y tro cyntaf yn 2016.

Roedd e’n aelod o garfan Morgannwg pan gyrhaeddon nhw Ddiwrnod Ffeinals y Vitality Blast yn 2017 ac yn 2018, roedd ymhlith y prif sgorwyr i Forgannwg gyda chyfradd fatio o dros 150.

Yn enedigol o Dde Affrica, chwaraeodd e dros yr Almaen y tymor diwethaf.

Daw ei yrfa i ben ac yntau wedi chwarae dros 100 o weithiau i Forgannwg ar draws yr holl gystadlaethau.

Mae wedi cipio 125 o wicedi ac wedi sgorio 1,905 o rediadau.

Ymateb

“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai emosiynol iawn i fi gan fod criced wedi chwarae rhan mor bwysig yn fy mywyd,” meddai.

“Wedi dweud hynny, rhaid i fi wneud yr hyn sydd orau i’m hiechyd ac mae yna fywyd ar ôl criced.

“Mae’r ffisio a’r staff cynorthwyol a phawb arall ym Morgannwg wedi bod yn wych drwy gydol y broses hon ac alla i ddim diolch iddyn nhw ddigon.

“Mae’r syndrôm wedi cael effaith sylweddol arna i’n gorfforol ac yn feddyliol ac fe fu’n anodd perfformio sgiliau ar y lefel dw i’n gwybod y galla i.

“Mae’n rhaid i fi gael llawdriniaeth nawr a chyfnod o adferiad wedyn er mwyn cael yr ansawdd yn ôl yn fy mywyd.

“Mae chwarae i Wlad yr Haf a Morgannwg wedi rhoi nifer o gyfleoedd gwych i fi, yn ogystal â’r cyfle i wneud ffrindiau bore oes.

“Bydda i bob amser yn ddiolchgar am y cyfleoedd mae criced wedi eu rhoi i fi.

“Dw i’n dymuno’r llwyddiant mwyaf i’r chwaraewyr a’r staff yn y dyfodol, a gobeithio y gall y bois fwrw ati i gael chwarae y tymor hwn.

“Diolch i Forgannwg! Diolch i Wlad yr Haf!”

Teyrnged

Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi talu teyrnged iddo.

“Mae hi bob amser yn drist iawn pan fo chwaraewr yn cael ei orfodi i ymddeol oherwydd anaf, ac yn enwedig yn achos Craig ac yntau wedi cyrraedd oedran pan fo nifer yn cyrraedd y brig.

“Fe wnaeth doniau a sgiliau naturiol Craig sefyll allan erioed ac roedd ganddo fe ddawn yn y gêm, oedd yn ei wneud e’n gyffrous i’w wylio a chwarae ochr yn ochr â fe.

“Ymhellach, oddi ar y cae, roedd Craig yn broffesiynol ac yn ymroddedig, ac yn aelod poblogaidd o’r garfan oedd bob amser yn gweithio’n galed i roi’r cyfle gorau iddo fe a’r tîm i lwyddo.

“Dw i’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran pawb yn y clwb wrth ddiolch i Craig am bopeth mae e wedi’i wneud ar y cae ac oddi arno yn ystod ei gyfnod yma, a dymunwn yn dda iddo ar gyfer dyfodol disglair y tu allan i’r maes chwarae.”