Fe fydd tymor criced sirol byr yn cael ei gynnal o fis nesaf.

Daeth cadarnhad eisoes na fyddai’r tymor yn dechrau cyn Awst 1, ond mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) bellach yn dweud mai’r Bencampwriaeth pedwar diwrnod a’r gystadleuaeth ugain pelawd fydd yn cael eu cynnal.

Bydd yr holl siroedd yn cymryd rhan yn y ddwy gystadleuaeth, gydag enillwyr y gystadleuaeth pedwar diwrnod yn ennill Tlws Bob Willis, er cof am y sylwebydd a chyn-gapten Lloegr.

Bydd y gystadleuaeth ugain pelawd yn dechrau ar Awst 27.

Mae disgwyl i’r siroedd, sy’n cynnwys Morgannwg, gadarnhau’r trefniadau i ad-dalu aelodau yn y dyfodol agos.

Dywed yr ECB y byddan nhw’n cydweithio’n agos â’r siroedd er mwyn parhau i asesu’r risgiau sydd ynghlwm wrth gynnal gemau yn sgil y coronafeirws.

Mae disgwyl i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wneud cyhoeddiad am griced ar lawr gwlad yng Nghymru yn ei gynhadledd heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 10), ar ôl i Lywodraeth Prydain roi sêl bendith i glybiau Lloegr ddechrau chwarae eto yfory (dydd Sadwrn, Gorffennaf 11).