Mae Abertawe a Luton wedi derbyn dirwy o £5,000 gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Bu gwrthdaro rhwng chwaraewyr y ddau glwb ar ddiwedd gêm yn Stadiwm y Liberty ddiwedd mis Mehefin, gêm y gwnaeth Luton ei hennill 1-0.
Cafodd eilydd Abertawe, Jordon Garrick, ei yrru o’r cae am roi ei law yn wyneb chwaraewr Luton yng nghanol gwrthdaro rhwng chwaraewyr y ddau dîm.
“Mae Clwb Pêl-droed Abertawe a Chlwb Pêl-droed Luton cael dirwy o £5,000 yn dilyn eu gêm ar Fehefin 27 2020,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.
“Mae’r ddau glwb wedi cyfaddef iddyn nhw fethu a sicrhau bod eu chwaraewyr yn ymddwyn yn drefnus yn 83fed munud y gêm.
“Mae’r clybiau bellach wedi derbyn y gosb safonol”.