Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol clodydd Ben Cabango yn dilyn ei gôl gyntaf i’r clwb.
Cyfrannodd y Cymro Cymraeg at fuddugoliaeth bwysig i’r Elyrch o 3-1 oddi cartref yn Birmingham, sy’n eu gadael nhw un pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle yn y Bencampwriaeth, gyda phedair gêm yn weddill.
Sgoriodd Rhian Brewster a Jay Fulton y goliau eraill ar ôl i’r tîm cartref fynd ar y blaen o fewn ychydig funudau, wrth i amddiffyn llac yr Elyrch roi cyfle i Lukas Jutkiewicz o flaen y gôl.
Wrth i’r chwiban olaf gael ei chwythu, roedd gan yr amddiffynnwr canol wên lydan ar ei wyneb, a’r chwaraewyr yn ei amgylchynu yn eu dathliadau.
“Mae e’n berson rhagorol,” meddai Steve Cooper wrth golwg360 ar ddiwedd y gêm.
“Bydd hi’n braf gweld [y dathliadau] yn ôl ar y teledu oherwydd byddwch chi wedi gweld y cyfathrebu.
“Ond mae e’n foi da, wir i chi.
“Mae e’n foi poblogaidd.
“Alla i ddim dweud bo fi wedi sylwi ryw lawer o’r ystlys ond os oedd y bois yn edrych yn falch drosto fe, byddai hynny wedi bod yn hollol ddiffuant, mae hynny’n sicr.
“Mae’n foi da, yn llawn hwyl, yn ymroddgar tu hwnt, yn barchus iawn – popeth rydych chi eisiau gweld mewn person ifanc.
“Ac mae e’n gwneud pethau da ar y cae.
“Efallai na fydd e yn y tîm bob tro i sgorio goliau, ond mae’r gallu ganddo fe yn sicr, oherwydd mae e’n barod iawn i ymosod â’r bêl.”
Y gôl
Wrth drafod gôl Ben Cabango, dywedodd Steve Cooper ei bod hi’n “well nag un Jay Fulton!”
Yn wahanol i Fulton, roedd ergyd Cabango yn un gymharol lân.
“Efallai nad hon oedd gôl berta’r noson, ond maen nhw i gyd yn cyfri,” meddai’r rheolwr.
“Dw i mor falch dros Benny, mae’n foi gwych ac yn chwaraewr arbennig o dda sydd wedi cael tipyn o dymor.
“Mae e mor ymroddgar, ac mae e wedi gorfod ymdopi â sefyllfaoedd meddygol eleni hefyd, ac wedi gorfod chwarae trwy dipyn o boen hefyd, ond dyna’r math o foi yw e.
“Ro’n i’n meddwl bod ei amddiffyn e’n wych heno hefyd.
“A bod yn onest, roedd hi’n hen bryd iddo fe sgorio gôl oherwydd os edrychwch chi’n ôl dros gemau eraill, mae e wedi methu sawl cyfle da gyda’i ben.
“Ry’n ni wedi bod yn cael tipyn o jôc gyda fe ei fod e’n cyrraedd y bêl er mwyn sgorio, ond fe gwympodd un ar ei droed e heno ac fe wnaeth e ei rhoi hi i mewn, felly dw i’n falch iawn dros Benny.
“Pan nad oedd e’n barod i ddechrau ar y penwythnos, fe ddywedais i ’mod i’n hapus gyda fe a fel y chwaraewyr ifanc eraill, rhaid i ni barhau i weithio gyda fe bob dydd, a sicrhau bod eu traed nhw i gyd ar y ddaear, ac maen nhw.
“A gobeithio wedyn y byddan nhw’n parhau i wella.”
Annog ymosodiadau
Mae Steve Cooper wedi dweud wrth golwg360 yn y gorffennol ei fod e’n annog Ben Cabango i symud i fyny’r cae os yw e’n gweld cyfle i ymosod.
Ac fe ddywedodd unwaith eto ar ôl y gêm heno (nos Fercher, Gorffennaf 8) fod hynny’n dal yn wir.
“Ry’n ni’n dîm sydd eisiau i’n hamddiffynwyr canol ni fod ar y bêl ar ddechrau symudiadau ymosodol,” meddai.
“Ro’n i’n credu bod hynny’n rhan bwysig o’n cynllun ni ar gyfer y gêm heno.
“Roedd safon pasio Kyle [Naughton] yn rhagorol yn yr hanner cyntaf, gan agor y bylchau a dod o hyd i draed Andre [Ayew] neu wrth roi’r bêl i lawr yr ystlys ar gyfer rhediadau.
“Ry’n ni’n credu yn y dull yna o chwarae, ac yn gwybod fod yr amddiffynwyr canol yn gallu pasio cystal ag unrhyw un ar y cae.
“Yr hyn sydd ei angen ar y bois ifanc gen i a’r staff hyfforddi yw cefnogaeth yn nhermau gallu mynd allan a gwneud hynny.
“Ry’n ni eisiau iddyn nhw fod yn ddewr a chwarae mewn ffordd ddewr ac er mwyn gwneud hynny, rhaid i chi eu cefnogi nhw drwy’r da a’r drwg.”