Rydw i wedi defnyddio’r amser adref yn hunanynysu i ymchwilio ymhellach i fy nghoeden deulu. Ond hefyd, rydw i wedi ymchwilio i hanes rhai o chwaraewyr rhyngwladol Cymru. Mae yna ddigon o wybodaeth gyhoeddus ar gael o’r cyfrifiadau cenedlaethol, ac yn ddiweddar mae cofrestr gyhoeddus o 1939 wedi ei chyhoeddi.